Gwasanaeth Coffa Cymreig Cenedlaethol yn Langemark
17 / 08 / 2017Ar 31 Gorffennaf 2017, cynhaliodd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 Gyfarfod Coffa Cymreig Cenedlaethol yn Langemark, Gwlad Belg, i anrhydeddu y 3,000 o filwyr o Gymru a fu farw neu a anafwyd ym Mrwydr Passchendaele gan mlynedd yn ôl.
Cafodd Prif Weinidog Cymru yr anrhydedd o groesawu dros 1000 o westeion o Gymru, Ewrop ac ymhellach, gan gynnwys Ei Uchelder Tywysog Cymru, Gweinidog-Lywydd Fflandrys, Geert Bourgeois, a Gweinidog Amddiffyn Gwlad Belg, Steven Vandeput.
Hoffem ddiolch i bawb a deithiodd i Fflandrys i fod yn bresennol ac a gyfrannodd at wasanaeth dwys er cof am y dynion o Gymru a ymladdodd yno. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb oedd yn gallu ymuno â ni yn yr achlysur pwysig hwn.
Rydym am ddiolch i’r rhai hynny a fu’n cynorthwyo i drefnu’r gwasanaeth, ac i bawb gymerodd ran i’w wneud yn llwyddiant. Yn olaf, hoffem ddiolch i’r gymuned leol yn Langemark am eu cefnogaeth barhaus ddi-flino.