NEWYDDION

GALWAD AM DDIGWYDDIADAU AR GYFER RHAGLEN 2018

05 / 09 / 2017

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar lyfryn Rhaglen 2018 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ac yn apelio am ddigwyddiadau y gellir eu defnyddio.

Rhaglen 2018 fydd y diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau blynyddol sy’n rhoi manylion digwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru neu ymhellach i ffwrdd ond sydd â chysylltiad Cymreig. Mae’r rhaglenni blynyddol hefyd yn cynnwys erthyglau sylweddol am wahanol brosiectau coffa a gynhaliwyd eisoes, sy’n digwydd ar hyn o bryd ac sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dyfodol.

I weld y cyhoeddiadau diweddaraf, cliciwch ar Rhaglen 2014, Rhaglen 2015, Rhaglen 2016 a Rhaglen 2017.

Digwyddiadau

Mae digwyddiadau coffa yn cael eu cynnal ledled Cymru a thu hwnt. Os hoffech i’ch digwyddiad chi gael ei ystyried ar gyfer Rhaglen 2018, ychwanegwch ef at wefan ein Rhaglen [https://www.cymruncofio.org/events/], drwy ddefnyddio’r ffurflen electronig.

A fyddech cystal ag ychwanegu eich digwyddiadau ar gyfer 2018 at y wefan erbyn 1 Rhagfyr 2017 er mwyn rhoi amser i ddigwyddiadau a gyflwynwyd gael eu hystyried a’u prosesu ar gyfer Rhaglen 2018. Ni fydd modd ychwanegu digwyddiadau a ychwanegir ar ôl dyddiad hwn yn Rhaglen 2018.

Bydd Rhaglen 2018 yn cael ei lansio ar yr un diwrnod â ein Diwrnod Partneriaeth 2018, ar ddiwedd mis Ionawr 2018. Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei llwytho i dudalen newyddion gwefan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 yn ystod y misoedd nesaf.

Byddem yn ddiolchgar os gwnewch chi a’ch sefydliadau rannu’r wybodaeth hon gyda’ch cysylltiadau a’r rheiny sydd â chysylltiadau â threfniadau coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy eich gwefannau a chyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda.