NEWYDDION

Prif Weinidog Cymru yn agor Yr Ysgwrn

06 / 09 / 2017

Heddiw, agorir Yr Ysgwrn yn swyddogol gan Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AM, Prif Weinidog Cymru, yng nghwmni Gerald Williams, nai’r bardd enwog a’r milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn.

© Llywodraeth Cymru / Welsh Government

© Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Yr “Ysgwrn”, oedd cartref Hedd Wyn. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw ym 1917 am ei awdl, “Yr Arwr”, ond cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn iddo gael ei gyhoeddi’n fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair. Gorchuddiwyd y Gadair â lliain du a daeth yn adnabyddus fel Y Gadair Ddu. Gydag amser, daeth y Gadair yn symbol o genhedlaeth o ieuenctid Cymru a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyn pryniant Yr “Ysgwrn” gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mynegwyd pryderon am ei ddyfodol tymor hir, ond yn 2012, gyda chyfraniadau hael gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol llwyddodd yr Awdurdod i gwblhau’r pryniant ar gyfer y genedl. Derbyniodd yr Awdurdod £3.1m  gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £300,000 gan Lywodraeth Cymru i

    • atgyweirio a datblygu adeiladau hanesyddol Yr Ysgwrn
    • atgyweirio dodrefn yr Ysgwrn
    • dehongli’r safle yn seiliedig ar fywyd a gwaith Hedd Wyn, y Rhyfel Byd Cyntaf, hanes cymdeithasol Cymru wledig ar droad yr ugeinfed ganrif, treftadaeth amaethyddol a diwylliant y Gymraeg,
    • i ddarparu adnoddau addysg o’r radd flaenaf
    • ynghyd â gwella mynediad at y safle, gan gynnwys llwybrau o amgylch y daliad amaethyddol.

 

Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, fel rhan o’r datblygu, gwnaed gwaith gwarchod a gwella ar y tŷ  gan gynnwys trwsio creiriau’r gegin a’r llofftydd a’r cadeiriau,  adfer y tŷ drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol, ac agor y llawr cyntaf i ymwelwyr. Datblygwyd Beudy Llwyd yn adeilad croeso i’r safle gan gynnwys derbynfa, caffi, ystafell gymunedol, oriel arddangosfeydd a gofod cymunedol awyr agored. Yma  mae cyfle i ddysgu hanes Hedd Wyn, ei deulu a’i gymuned ac yn y Beudy Tŷ, caiff stori colled y Rhyfel Byd Cyntaf ei chyflwyno drwy ffilm ac arddangosfa.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael bod yma i agor yr Ysgwrn yn swyddogol − lle sydd ag arwyddocâd mawr yn hanes Cymru.  Mae’r heddwch a’r tawelwch yma ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn wrthgyferbyniad llwyr i’r erchyllterau y byddai Hedd Wyn wedi’u hwynebu yn Passechendaele dros gan mlynedd yn ôl.  Bu farw dros 3,000 o filwyr o Gymru yn y frwydr honno ac mae’r Ysgwrn nid yn unig yn coffáu Hedd Wyn ond yn dwyn i gof hefyd yr aberth a wnaed gan gynifer yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Gwnaed gwaith adnewyddu gwych yma yn yr Ysgwrn ac rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu gyda’r gwaith hwnnw, fel y bo’r darn gwerthfawr hwn o hanes Cymru yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), dywedodd y Farwnes Kay Andrews, Ymddiriedolwraig a Chadeirydd pwyllgor Cymru o Gronfa Dreftadaeth y Loteri,

“Mae’n fraint o fod wedi bod â rhan o ddod â bywyd a gwaith Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn – y lle yr oedd yn ei adnabod a’i garu mor dda – i genhedlaeth newydd, ac i wneud hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant ei farwolaeth a’i gyflawniad barddol mwyaf.

“Dygodd ei farwolaeth un o feirdd modern mwyaf Cymru, ond dygodd y Rhyfel Mawr ddawn ddifesur o Gymru gyfan. Mae Hedd Wyn yn sefyll dros yr holl ddynion hynny na wnaeth ddychwelyd, am yr addewid na chafodd erioed ei gyflawni, ac i deulu’r genedl sy’n eu hanrhydeddu.

“Trwy fuddsoddi mwy na £6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn ein cymunedau i chwilio ac adrodd y straeon cudd hyn o’r Rhyfel Mawr, rydym yn falch ein bod wedi gallu dod â’r dreftadaeth fwyaf nodedig a gwerthfawr hon i olau dydd.”


Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dywedodd y Cadeirydd, Owain Wyn,

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a Mr Gerald Williams,  am eu cefnogaeth, eu gweledigaeth a’u brwdfrydedd dros y pum mlynedd diwethaf i sicrhau ein bod ni heddiw yn agor y safle hwn yn swyddogol.

Dros y blynyddoedd, mae’n staff wedi gweithio’n agos gyda Mr Williams ac mae’n fraint ein bod ni’n cael bod yn gyfrifol am ofalu a gwarchod yr eiddo cenedlaethol pwysig hwn. Ein bwriad yw cadw drws Yr Ysgwrn yn agored er mwyn rhannu negeseuon parhaol Yr Ysgwrn am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel ac ar yr un pryd,  cynyddu dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o rinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri”.

Y tu allan i’r prif adeiladau, datblygwyd llwybrau cerdded o gwmpas y tir fferm, trowyd y cwt mochyn yn dŷ ystlumod, codwyd sied newydd i’r tenant amaethyddol, adeiladwyd boelerdy biomas, ail-gyflwynwyd y corlannau moch, a chyflwynwyd corlan o ddeunydd traddodiadol at ddefnydd y tenant. Adeiladwyd maes parcio gyferbyn â’r Beudy Llwyd  (lle i 2 o fysus a 22 o geir) ac ar y cyd â Chyngor Gwynedd, adnewyddwyd y ffordd i fyny at Yr Ysgwrn i ddarparu 2 fan pasio newydd ar hyd y lôn.