NEWYDDION

Barddoniaeth Colled, Y Gadair Wag

14 / 09 / 2017

literature-wales-logo_8fa3ae57Mae Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 wedi comisiynu sioe amlgyfrwng newydd ar fywyd a gwaith Hedd Wyn. Cynhaliwyd perfformiad agoriadol Y Gadair Wag, sydd wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn Nhrawsfynydd nos Fercher 6 Medi 2017, cyn dechrau ar daith ledled Cymru a thu hwnt drwy gydol mis Medi.

Mae Y Gadair Wag yn cyfuno barddoniaeth gydag elfennau theatrig amlgyfrwng. Bydd y sioe’n edrych ar themâu sy’n adleisio hanes Hedd Wyn a chyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond sy’n parhau i fod yn berthnasol i Gymry’r presennol, megis colled yn sgil rhyfel, ffoaduriaid sy’n ceisio lloches, a pherthynas Cymru â gwledydd Ewrop.

Mae Y Gadair Wag wedi ei hysgrifennu ac yn cael ei pherfformio gan Ifor ap Glyn, gydag Ian Rowlands a Jason Lye-Phillips yn gyfrifol am wireddu’r weledigaeth ar lwyfan.

Cadair wag yw delwedd ganolog y sioe, a bydd hynny’n fodd i drafod hanes Hedd Wyn a natur colled yn gyffredinol, gan fod y Rhyfel Mawr wedi gadael sawl cadair yn wag ar aelwydydd ar draws Ewrop. Bydd y cynhyrchiad yn cyffwrdd â hanes ffoaduriaid y rhyfel, am mai campwaith ffoadur o wlad Belg, Eugeen van Fleteren, oedd cadair wag Eisteddfod Penbedw, 1917. Byddwn hefyd yn cyferbynu bywyd Hedd Wyn gyda bywyd bardd arall a fu farw’r un diwrnod, ac a gladdwyd yn yr un fynwent – Francis Ledwidge o Iwerddon.

Mae’r sioe yn cynnwys cerddi gwreiddiol gan Ifor ap Glyn a beirdd cyfoes o Gymru wedi eu cydblethu â barddoniaeth a llythyrau Hedd Wyn, hanes y cyfnod, ac ambell gerdd gan gyfoedion.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Fel llysgennad diwylliannol, Ifor ap Glyn yw’r awdur perffaith i adrodd stori oesol a chwbl Gymreig Hedd Wyn yma yng Nghymru, yn Nulyn ac ym Melffast. Dyma sioe sy’n siŵr o wneud cyfiawnder â’r bugail-Brifardd a ddaeth i fod yn symbol o golledion enbyd y Rhyfel Mawr. Mynnwch eich tocyn nawr!”

Dyma fanylion y lleoliadau a sut i brynu tocynnau:

  • 6 Medi, 7.30 pm, Neuadd Trawsfynydd.
  • 13 Medi, 7.00 pm, Irish Writers Centre, Dulyn, Iwerddon. (Sioe amlieithog)
  • 15 Medi, 5.00 pm, Gŵyl Velvet Coalmine, Y Coed-duon: (Sioe amlieithog)Tocynnau: velvetcoalmine.com
  • 23 Medi, 7.30pm, Festri Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd.                                                          Tocynnau: 07816 456660
  • 30 Medi, 7.30pm, Culturlann, Belffast (Sioe amlieithog).Tocynnau: 02890 964180 / www.culturlann.ie

 

Caiff Y Gadair Wag ei llwyfannu gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o brosiect ehangach Barddoniaeth Colled | Poetry of Loss, a ariennir gan Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.