NEWYDDION

Fflandrys – Cymru Symposiwm ar y Rhyfel Byd Cyntaf

12 / 10 / 2017

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

9 Tachwedd 2017, 8.45am – 5.45pm

poster-05a_jpgCynhelir y symposiwm undydd hwn ar brofiadau pobl o Gymru a Fflandrys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a noddir gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Fflandrys, a Llywodraeth Cymru, yn adeilad y Pierhead, Caerdydd ar 9 Tachwedd 2017. Ceir cyflwyniadau ar brofiadau milwrol ar Feysydd Fflandrys, ar y ffoaduriaid o wlad Belg a ddaeth i Gymru, a hefyd ar y cyd-destun cymdeithasol a llenyddol ehangach.

Trefnir y symposiwm yng nghyswllt coffáu ymgyrch Passchendaele rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 1917, 100 mlynedd yn ôl. Nodwyd y canmlwyddiant hwn gan gyfres ehangach o ddigwyddiadau coffa, megis Gwasanaeth Coffa Cymreig yn Fflandrys ar 31 Gorffennaf 2017, a phrosiectau ar y cyd rhwng Llywodraeth Fflandrys a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y symposiwm hwn.

 

 

 

 

Rhaglen

8.45 – 14.10 Cofrestru ar gyfer y diwrnod cyfan neu’r bore yn unig, a choffi

Bore

9.15 – 9.30 Anerchiad agoriadol a chyfarchion gan Lywyddion Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Fflandrys
9.30 – 9.45 Julian Walker, awdur ac ymchwilydd, Coleg y Brifysgol Llundain: Cyflwyniad i themâu’r gynhadledd
9.45 – 10.15 1. Toby Thacker, Prifysgol Caerdydd: ‘Y golygfeydd mwyaf alaethus yn hanes milwrol Prydain: yr hanes a’r cof am Passchendaele’
10.15 – 10.45 2. Aled Eirug, Prifysgol Abertawe: ‘Gwrthwynebwyr cydwybodol yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’

10.45 – 11.15 Coffi

11.15 – 11.45 3. Christophe Declercq, Prifysgol Leuven / Coleg y Brifysgol Llundain: ‘Hunaniaeth Ffleminaidd a Belgaidd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’
11.45 – 12.15 4. Toni Vitti: ‘Y ffoaduriaid o wlad Belg yn Rhyl’
12.15 – 12.45 5. John Bradshaw, cyn Borthfaer Lacharn, a hanesydd lleol: ‘Ffoaduriaid o wlad Belg yn Lacharn a Sir Gaerfyrddin

12.45 – 14.00 Cinio

Prynhawn

14.00 – 14.30 6. Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog: ‘Cerddorion o wlad Belg oedd yn ffoaduriaid yng Nghymru’
14.30 – 15.00 7. Peter Theunynck, Awdur preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: “Mae Cymru ymhlith y mannau harddaf ym Mhrydain Fawr”. Gustave Van de Woestyne – Arlunydd alltud’
15.00 – 15.30 8. Hugh Dunthorne, Prifysgol Abertawe: ‘Frank Brangwyn ac artistiaid Ffleminaidd oedd yn ffoaduriaid yng Nghymru’

15.30 – 16.00 Coffi

16.00 – 16.30 9. Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe: ‘Milwyr Cymru a’u Hunaniaeth ar Ffrynt y Gorllewin’
16.30 – 17.00 10. Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, ‘Llythyron Adref gan Filwyr Cymru ar Ffrynt y Gorllewin’
17.00 – 17.15 11. Christophe Declercq a Toby Thacker, Sylwadau i Gloi

 

Prif Neuadd, Adeilad y Pierhead
Bae Cardiff
Caerdydd
CF99 1NA

Neilltuo lle

Ni chodir tâl i fynychu’r symposiwm a darperir cinio. Os ydych yn dymuno mynychu gellir neilltuo’ch lle ar y wefan ganlynol https://flandersandwalessymposium.eventbrite.co.uk. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a’r cyntaf i’r felin gaiff falu.