NEWYDDION

Kirsty Williams yn cyhoeddi grantiau o hyd at £1,000 i ysgolion fynd i ddigwyddiadau ar gyfer cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

11 / 11 / 2017

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi cyhoeddi y bydd ysgolion yn gallu gwneud cais am gyllid o hyd at £1,000, er mwyn mynd i berfformiadau ac arddangosfeydd sy’n seiliedig ar y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys safleoedd y Rhyfel.

Mae’r cymorth ariannol yn rhan o’r cynllun grantiau ‘Ewch i Weld’, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o’r rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau.  Nod y cynllun yw gwella’r ffordd y mae sectorau ym meysydd y celfyddydau ac addysg yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod athrawon a dysgwyr yn elwa ar gyfleoedd pwysig.

Dechreuodd y cynllun yn 2016, a gall ysgolion wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 i fynd i ddigwyddiadau celfyddydol o ansawdd uchel mewn galerïau, theatrau, canolfannau celfyddydol a lleoliadau eraill. Hyd yn hyn, mae dros 200 o ysgolion wedi cael grant, ac mae dros 12,000 o bobl ifanc wedi cael budd o’r grantiau.

Mae’r meini prawf ar gyfer cael grant bellach wed’u hehangu i gynnwys rhoi cyllid i fynd i ddigwyddiadau ar gyfer cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r grant hwn yn ategu’r grant i ysgolion uwchradd ar gyfer coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, sy’n parhau i dderbyn ceisiadau hyd at fis Mawrth 2018. Rhoddir y grant hwnnw i ddatblygu prosiectau creadigol ac arloesol i goffáu’r rhyfel.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

“Wrth inni goffáu Dydd y Cadoediad, rydyn ni’n cofio am fywydau pob un o’r rhai hynny a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn cymryd saib i ystyried y modd y mae’r frwydr erchyll hon wedi siapio’r byd modern.

“Bydd y grantiau hyn yn galluogi ysgolion i fynd â dysgwyr allan o’r ystafell ddosbarth i ymweld â safleoedd treftadaeth neu fynd i ddigwyddiadau, fel arddangosfa neu gynhyrchiad mewn theatr.  Dyma’r math o brofiadau sy’n helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw.

“Mae hynny’n rhan hanfodol bwysig o’r profiad dysgu ac yn gyson â’r cwricwlwm newydd, sydd â chreadigrwydd wrth wraidd iddo.”.