NEWYDDION

First World War Partnership Day 2018

20 / 12 / 2017

Diwrnod Partneriaeth 2018

Yn dilyn llwyddiant Diwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a gynhaliwyd yn y gorffennol, fe’ch gwahoddir i Ddiwrnod Partneriaeth rhad ac am ddim yn Adeilad y Pierhead, Caerdydd ar 30 Ionawr 2018. Mae croeso i sefydliadau mawr neu fach a hefyd unigolion sy’n gweithio ar brosiectau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Dyma nod y diwrnod:
• Rhoi golwg gyffredinol ar y cynlluniau cenedlaethol i goffáu’r Rhyfel yn 2018.
• Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
• Ysbrydoli prosiectau a gweithio mewn partneriaeth ar gyfer 2018 a diwedd y cyfnod coffáu
• Rhoi golwg gyffredinol i’r rheini a fydd yn bresennol o’r gweithgareddau sydd ar y gweill ledled Cymru i goffáu’r canmlwyddiant
• Trafod y coffáu yng Nghymru hyd yn hyn a rhannu’r Gwersi a Ddysgwyd.

Mae adolygiad o ddigwyddiadau’r llynedd i’w weld yma.

Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, a chan Bartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, sy’n cael ei harwain gan yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol.

Gellir cofrestru drwy wefan Eventbrite yma https://www.eventbrite.co.uk/e/diwrnod-partneriaeth-2018-partnership-day-2018-tickets-41418551001 neu drwy e-bost at: extranet1914@iwm.org.uk, gan nodi’ch enw, eich sefydliad ac unrhyw anghenion deietegol neu anghenion mynediad sydd gennych. Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin, ac mae lle ar gael ar gyfer 4 cynrychiolydd ar ran pob sefydliad.

Agenda’r diwrnod:
10:00 – 10:30 Cyrraedd a chofrestru (Te a Choffi)
10:30 – 10:55 Croeso a Lansio Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ar gyfer 2018
10:55 – 11:10 Yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrth Bartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf (Yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol)
11:10 – 11:30 Cyflwyniad ar Brosiect Coffáu (Y prosiect a’r siaradwr i’w cadarnhau)
11:30 – 12:30 Sesiwn Un: Trafodaeth Grŵp. Trafodaethau ar sail Gwersi a Ddysgwyd a Rhannu Syniadau, Cynlluniau ar gyfer gweddill Cyfnod y Coffáu
12:30 – 13:45 Rhwydweithio dros ginio a chyfle i ymweld â stondinau’r sefydliadau
13:45 – 14:15 Slot meicroffon agored er mwyn i unigolion gael rhoi’r newyddion diweddaraf a gofyn cwestiynau (5 munud yr un)
14:15 – 15:15 Sesiwn Dau: Trafodaethau Grŵp. Trafodaethau ar Waddol
15:15 – 15:30 Crynhoi, sylwadau i gau’r diwrnod a diolchiadau gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
15:30 – 15:45 Gadael
15:45 Diwedd

I nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae dros 3,800 o sefydliadau o 62 gwlad wedi ymuno â Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a arweinir gan Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, gan gynnal miloedd o weithgareddau coffa addysgol ar gyfer y cyhoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i www.1914.org/partnership.

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru a thu hwnt: https://www.cymruncofio.org.

Dylech nodi y bydd enwau a chyfeiriadau e-bost y cynrychiolwyr yn cael eu rhannu ar ôl y cyfarfod er mwyn annog gweithio mewn partneriaeth. Nodwch yn eich ateb os yw’n well gennych beidio â rhannu eich cyfeiriad e-bost. Bydd ffotograffydd hefyd yn bresennol yn ystod y dydd. Wrth gofrestru i fynychu bydd yr holl mynychwyr yn cytuno y gellir defnyddio’r ffotograffau hyn gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 a Phartneriaeth Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf mewn deunydd cyfathrebu, gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol.