NAWR YR ARWR
26 / 01 / 2018- MARC REES YN YMUNO Â JÓHANN JÓHANNSSON, A ENWEBWYD DDWYWAITH AM OSCAR, AC OWEN SHEERS, ENILLYDD GWOBR BAFTA CYMRU
- COMISIWN CYMREIG O BWYS YN NHYMOR OLAF 14-18 NOW FYDD PRIF DDIGWYDDIAD GŴYL RYNGWLADOL ABERTAWE
- ADRODD HANES TAIR CENHEDLAETH O FILWYR YN NINAS ABERTAWE, 25-29 MEDI
Bydd Marc Rees, yr artist aml-ddisgyblaeth heb ei ail (150, Tir Sir Gâr, Raw Material) yn gweddnewid dinas Abertawe am bum niwrnod fis Medi eleni. Bydd y profiad theatrig hwn yn arwain ymwelwyr ar daith ryfeddol drwy dair stori ryfel; gan grwydro o draeth Bae Abertawe i weld trysorau celfyddydol yn Neuadd enwog Brangwyn.
Mewn cynhyrchiad i ymgolli ynddo, a hwnnw’n para dwyawr a hanner, bydd Rees yn gweithio gyda thîm creadigol anhygoel i ddod â cherdd ‘Y Gododdin’ yn fyw, a hynny i gyfeiliant requiem sydd wedi’i chyfansoddi gan Jóhann Jóhannsson (The Theory of Everything, Arrival), ar y cyd ag Owen Morgan Roberts, y cyfansoddwr o Gymro. Yr awdur o Gymru, Owen Sheers (Mametz, The Passion), sydd wedi creu’r libreto a Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton, ac enillwyr gwobr Grammy, fydd yn canu.
Y prosiect uchelgeisiol hwn fydd uchafbwynt blwyddyn olaf rhaglen 14-18 NOW yng Nghymru, sef rhaglen gelfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Bydd sioe Nawr Yr Arwr/ Now The Hero yn cael ei pherfformio yn ardal Neuadd y Ddinas/Neuadd Brangwyn, ac yn gefndir i’r cyfan bydd Paneli’r Ymddiriedolaeth Brydeinig gan Syr Frank Brangwyn RA (1867-1956). Dyma fydd digwyddiad agoriadol Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.
Meddai Marc Rees “Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi darganfod dro ar ôl tro bod gweithiau diwylliannol a chreadigol yn gallu agor adeiladau sydd wedi bod ar gau ers amser maith, ond yn gallu agor y drws i gymunedau hefyd. Mae Nawr Yr Arwr/Now The Hero yn adlewyrchu hanes cyfoethog Abertawe ac yn bwrw goleuni ar gyfres o ddarluniau sydd wedi’u hanghofio i ryw raddau. Mae hi’n sioe sy’n cyfleu neges o dristwch mawr yn ystod profiad unigryw y bydd modd ymgolli ynddo’n llwyr. Mae’n anodd meddwl am ffordd well i nodi blwyddyn olaf 14-18 NOW na chreu cynhyrchiad Cymreig trawiadol, gan goffáu’n ingol ar yr un pryd.”
Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: “Rwyf ar ben fy nigon fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Nawr Yr Arwr / Now The Hero – digwyddiad a fydd yn cydblethu cyfnodau yn ein hanes yn y lleoliad ysblennydd hwn. Rwy’n sicr y bydd y cynhyrchiad yn procio’r meddwl ac yn creu emosiynau cryf, ac y bydd yn deyrnged deilwng i aberth y Cymry y cofiwn oll amdanynt. Mae’r prosiect yn ddigwyddiad o bwys wrth i Lywodraeth Cymru fynd ati i goffáu yn 2018, ac mae’r momentwm yn cynyddu cyn inni droi ein golygon eleni at y Cadoediad a diwedd y Rhyfel. Ar ôl y penderfyniad ynghylch Dinas Diwylliant y DU 2021, mae’n dda gen i weld Abertawe yn lansio prosiect mor uchelgeisiol sy’n dangos bod yr egni, yr hyder a’r brwdfrydedd a welwyd yn ystod yr ymgyrch honno’n parhau.”
Y tu ôl i dirlun ffantasïol, paradwysaidd Brangwyn, mae trasiedi hanesyddol yn llechu, ac mae’r paneli yn goffâd o gryn bwys i’r Rhyfel Mawr. Mae hyn wedi ysbrydoli Marc Rees i greu perfformiad epig ar gynfas eang, mewn lleoliad penodol, gan gydblethu straeon am wrthdaro drwy gyflwyno golygfeydd o gyrch milwrol, rhialtwch neithior briodas, dawns brotest ac angladd hynafol. Mae Nawr yr Arwr/Now The Hero yn edrych ar straeon rhyfel o dri chyfnod penodol yn hanes Cymru: milwr canoloesol, milwr cyffredin o’r Rhyfel Mawr, a milwr cyfoes. Yn wrthbwynt i’r cyfan, ceir elfen o obaith ar ffurf yr adroddwr sy’n cael ei chwarae gan y Gymraes Eddie Ladd, sy’n berfformwraig o fri.
David Williams, Is-gapten yn Ail Fataliwn y Reifflau, a gŵr a fagwyd yn Abertawe, fydd yn chwarae cymeriad y milwr cyfoes. Mae wedi gwasanaethu yn Affganistan, Gabon, De Swdan ac Irac, a bu’n astudio yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Ym mis Ionawr 2018, gadawodd Williams y lluoedd arfog, ac mae’n bwriadu ailhyfforddi fel therapydd a hyfforddwr codi pwysau. Mae hefyd yn bwriadu cyfrannu at y gymuned gelfyddydol yn Abertawe.
Cafodd Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig, gan yr artist Syr Frank Brangwyn, eu comisiynu gan Dŷ’r Arglwyddi i goffáu’r Rhyfel Mawr, ond penderfynwyd eu bod yn anaddas gan eu bod yn ‘rhy lliwgar a bywiog’. O gofio bod gan Brangwyn gysylltiadau â’r ddinas ar ochr ei dad, cynigiodd Abertawe roi cartref i’r darnau rhyfeddol hyn o gelf, ac maent wedi bod yn ganolbwynt i Neuadd Brangwyn ers 1934.
Ysgrifennwyd ‘Y Gododdin’ gan Aneurin yn OC 600 ac mae’n un o’r enghreifftiau hynaf sydd wedi goroesi o farddoniaeth Gymraeg. Mae’r gerdd yn adrodd hanes brwydr yng Nghatraeth, lle lladdwyd bron i 300 o filwyr Celtaidd. Cafodd y gwaith ddylanwad mawr ar gerdd hir David Jones, ‘In Parenthesis’, a oedd yn fyfyrdod ar y gyflafan y bu’n dyst iddi yn y Rhyfel Mawr. Dywedodd Owen Sheers bod y gerdd wedi dylanwadu ei waith blaenorol, ‘Pink Mist’.
Meddai Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW: “Rydym wrth ein boddau o gael gweithio gyda Marc Rees ar y comisiwn newydd hwn yn ein tymor olaf. Mae Marc wedi dod â thîm creadigol rhagorol ynghyd er mwyn creu cysylltiad rhwng cynulleidfaoedd o bob oed a threftadaeth ryfeddol Neuadd Brangwyn, a’r hyn y mae’r Neuadd honno’n ei gynrychioli. Bydd y gwaith grymus hwn yn dod ag effaith ddwys y Rhyfel Mawr ar Gymru yn fyw.”
Mae Nawr Yr Arwr / Now The Hero yn rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe a Blwyddyn y Môr Croeso Cymru. Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Croeso Cymru.
Mae Nawr yr Arwr / Now The Hero wedi’i gomisiynu gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y Deyrnas Unedig i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Cafwyd cymorth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chan yr Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Canolfan Gelfyddydol Taliesin a Phrifysgol Abertawe sy’n cynhyrchu’r sioe, a hynny gyda chymorth hael Cyngor Abertawe, Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Mae’r prosiect hefyd yn cael cyllid gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sef cronfa sy’n ceisio annog syniadau newydd ac arloesol ar gyfer cynnyrch drwy weithio mewn partneriaeth mewn ffordd a fydd yn cael mwy o effaith ac yn denu mwy o ymwelwyr i Gymru.