Digwyddiad Prif Weinidog David Lloyd George a’r Awyrlu Brenhinol, Llanystumdwy, 12 Ionawr 2018
29 / 01 / 2018Dathlwyd cyfraniad David Lloyd George at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol yn ei hen gartref yn Llanystumdwy’ ar 12 Ionawr.
Cynhaliwyd y dathliad i nodi penderfyniad y Prif Weinidog ar y pryd i greu’r Awyrlu annibynnol cyntaf yn y byd ym 1918.
Mynychwyd y digwyddiad yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, Gwynedd gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC a Phennaeth y Staff Awyr, y Prif Farsial Awyr Syr Stephen Hillier, ynghyd â gwesteion pwysig eraill.
Roedd y deyrnged yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol , er mwyn tynnu sylw at ddylanwad y Cymro ar hanes milwrol y byd.

Mr Edmund Seymour Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd a Prif Farshal Awyr Syr Stephen Hillier yn saliwtio yn ystod yr hedfan heibio
© Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU Hawlfraint y Goron
Roedd y diwrnod yn cynnwys awyren o’r Awyrlu Brenhinol yn hedfan heibio, arddangosfeydd ac arddangosiadau, dadorchuddio model o un o awyrennau’r Rhyfel Byd Cyntaf a chyflwyno llyfr coffa i egluro cyfraniad David Lloyd George at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol. Hefyd, agorwyd Gardd Goffa Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol ar dir yr amgueddfa.
Mynychwyd y digwyddiad gan tua 80 o bobl, gan gynnwys Cadetiaid Awyr o Sgwadron yr Wyddgrug Rhif 1378, Gwasanaeth Tîm Achub Mynydd RAF y Fali, Arglwydd Raglaw Gwynedd, aelodau o deulu Lloyd George ac arweinydd Cyngor Sir Gwynedd.
Roedd Lloyd George yn un o’r gwleidyddion cyntaf ym Mhrydain i gymryd pŵer awyr o ddifrif. Mor gynnar â 1909 roedd wedi rhybuddio bod Prydain mewn perygl o gael ei gadael ar ôl gan y dechnoleg newydd.
Erbyn 1917 roedd wedi sylweddoli y gallai pŵer awyr roi terfyn ar y sefyllfa waedlyd ar y Ffrynt Gorllewinol a’r gyflafan yn y ffosydd.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, nid oedd pŵer awyr wedi’i ddatblygu’n llawn. Roedd y daith hedfan gyntaf â phŵer mewn awyren wedi digwydd 11 o flynyddoedd ynghynt, ym 1903. Ond wrth i’r rhyfel barhau i’w drydedd flwyddyn, roedd yn amlwg nad oedd potensial y pŵer newydd yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.
Ym 1914, roedd awyrennau’n beiriannau bregus, cymharol ddi-bŵer a oedd yn methu cludo llawer o arfau, ond erbyn 1917 roedden nhw wedi datblygu’n awyrennau bomio cryf a oedd yn gallu cludo bomiau hyd at 1,000kg.

Prif Farshal Awyr Syr Stephen Hillier a Mr Edmund Seymour Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd yn agor Gardd Goffa Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol yn Amgueddfa Lloyd George
© Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU Hawlfraint y Goron
© MOD Crown Copyright 2017
Roedd galw mawr am weithredu ar ôl i awyrennau ymladd fethu ag atal awyrennau’r Almaen rhag bomio Llundain a lladd llawer o bobl. Daeth y cyrchoedd hyn ag arswyd y rhyfel gartref i bobl Prydain, ymhell o’r Ffrynt Gorllewinol.
Er bod awyrlongau Zeppelin wedi ymosod ar Brydain yn gynharach yn y rhyfel, roedd yr ymosodiadau gan awyrennau bomio Gotha yn waeth o lawer.
Gydol haf 1917, lansiodd awyrennau’r Almaen gyrchoedd pellach ar Lundain, gan ladd cannoedd o bobl. Roedd yn destun gofid na allai amddiffynfeydd awyr ac awyrennau ymladd yr RFC a’r RNAS atal yr ymosodiadau.
Bu farw tua 1,000 o sifiliaid Prydeinig yn dilyn cyrchoedd awyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chawsant effaith seicolegol fawr hefyd.

Prif Farshal Awyr Syr Stephen Hillier, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, a Mr Edmund Seymour Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd yng Ngardd Goffa Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, Amgueddfa Lloyd George
© Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU Hawlfraint y Goron
Yn ystod un ymosodiad, fe ruthrodd 100,000 o bobl i gael lloches yn y rhwydwaith trenau tanddaearol yn Llundain, ac fe wnaeth cannoedd o filoedd o bobl yr un peth y nosweithiau canlynol, waeth a oedd cyrch yn digwydd ai peidio.
O ganlyniad i hyn, cynyddodd y galw am weithredu. Fel yr ysgrifennodd Lloyd George yn ei hunangofiant o’r rhyfel yn ddiweddarach, sylweddolodd fod angen gweithredu:
“Os oedd si ar led bod awyrennau bomio ar eu ffordd, roedd dynion, menywod a phlant gofidus yn heidio i orsafoedd tiwb a thwneli. Bob noson glir roedd tiroedd comin o amgylch Llundain dan eu sang gyda ffoaduriaid a’r bygythiad o’r awyr.”
Yn ystod yr haf hwnnw, wrth i’r cyrchoedd awyr barhau a’r amddiffynfeydd fethu â’u hatal, roedd yn amlwg i Lloyd George bod angen gwella pŵer awyr Prydain.
I’r perwyl hwn, gofynnodd i’r Cadfridog Jan Smuts ymchwilio i gyflwr pŵer awyr Prydain. Roedd yr adroddiad yn argymell sefydlu Awyrlu a Gweinyddiaeth annibynnol, ac fe gafodd y syniad hwn gefnogaeth lawn Lloyd George.
Roedd yr ysgogiad i greu awyrlu annibynnol yn deillio hefyd o awydd Lloyd George i symud yr ymgyrch ddiddatrys yn erbyn yr Almaen oddi wrth y Ffrynt Gorllewinol a newid tactegau’r rhyfel. Roedd cannoedd o sifiliaid yn cael eu lladd yn Llundain gan fomiau awyrennau’r Almaen, ac roedd cannoedd o filoedd o filwyr Prydeinig yn cael eu lladd wrth i gyrch Passchendaele ddod i ben yn y llaid yn Fflandrys.
Felly, roedd y syniad o ddefnyddio tactegau gwahanol i ennill y rhyfel ac osgoi’r brwydro yn y ffosydd yn apelio’n fawr at y Cymro.
Mae’n rhaid bod Smuts wedi creu cryn argraff ar Lloyd George pan ddywedodd: ‘Er y bydd ein Ffrynt Gorllewinol yn parhau i symud ymlaen yn araf iawn yng Ngwlad Belg a Ffrainc, bydd y frwydr yn yr awyr yn digwydd dros y Rhine, ac fe allai hynny fod yn ffactor pwysig wrth sicrhau heddwch’.
Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud i sefydlu awyrlu ar wahân a Gweinyddiaeth Awyr, fe gafodd y Mesur ei drafod yn y Senedd. Dywedodd Lloyd George wrth Dŷ’r Cyffredin y gallai’r pŵer hwn weddnewid y rhyfel: “I’r awyrennau hyn, y ffurfafen yw maes y gad . Nhw yw Marchoglu’r Cymylau. Ymhell uwchlaw brynti’r llaid”.
Cafodd y Mesur i sefydlu Gweinyddiaeth Awyr gydsyniad brenhinol ar 29 Tachwedd. Wedyn dechreuodd y broses o greu’r awyrlu annibynnol cyntaf yn y byd ym mis Ebrill 1918.

Comodor Awyr Adrian Williams, Mr Edmund Seymour Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd a Prif Farshal Awyr Sir Stephen Hillier yn Amgueddfa Lloyd George
© Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU Hawlfraint y Goron
Roedd ŵyr David Lloyd George, David Lloyd Carey-Evans, wrth ei fodd bod cyfraniad Lloyd George yn cael ei ddathlu. Meddai: “Mae’n braf iawn bod cyfraniad fy nhaid at sefydlu’r Awyrlu annibynnol cyntaf yn y byd yn cael ei gofio. Roedd y Fyddin yn awyddus iawn i reoli’r corfflu awyr newydd, ond roedd fy nhaid yn anghytuno’n chwyrn, gan gredu nad dyna’r ffordd ymlaen i’r llu dynamig newydd ac roedd yn benderfynol y dylai fod yn annibynnol a chael cyfle i’w ddatblygu ei hun yn hytrach na chael ei reoli gan y fyddin.”
Meddai Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Annwen Daniels: “Mae Cyngor Gwynedd yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, sy’n bwysig i Wynedd a’r Gogledd. Mae’n briodol iawn ein bod yn dathlu un o lwyddiannau mawr David Lloyd George fel Prif Weinidog yma yn Llanystumdwy lle y treuliodd ei flynyddoedd ffurfiannol, ac yn enwedig yn yr Amgueddfa gan ei bod yn gwneud gwaith mor dda yn cofio ei fywyd a’i waith.”

Prif Farshal Awyr Sir Stephen Hillier yn cyfarfod Cadlanciau Awyr yn Amgueddfa Lloyd George
© Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU Hawlfraint y Goron
Meddai Pennaeth y Staff Awyr, y Prif Farsial Awyr Syr Stephen Hillier: “Wrth i’r Awyrlu Brenhinol ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2018, mae’n fraint i ni ddod yma i Amgueddfa David Lloyd George i gofio a dathlu ei gyfraniad pwysig at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol gan mlynedd yn ôl. Roedd y Prif Weinidog Lloyd George yn arweinydd gwych adeg y rhyfel, ac fe gyflawnodd lawer yn ei yrfa wleidyddol. Mae ei gyfraniad at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol, sef yr Awyrlu annibynnol cyntaf yn y byd, yn gyflawniad pwysig arall sy’n haeddu cael ei ddathlu.”
Meddai’r Cydgysylltydd Amgueddfeydd, Megan Cynan Corcoran: “Ers ei hadeiladu’n arbennig yn y 1960au, mae Amgueddfa Lloyd George wedi gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo bywyd, hanes a llwyddiannau un o Brif Weinidogion enwocaf y DU. Fe gafodd Lloyd George fagwraeth werinol, gan fynychu ysgol y pentref yn Llanystumdwy a thrafod a dysgu am wleidyddiaeth wrth draed ei ewythr yng ngweithdy’r crydd. Ond fe ddatblygodd yn wladweinydd mawr wedyn, gan osod y sylfeini ar gyfer y wladwriaeth les ac arwain y wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Heddiw rydym yn cofio un arall o’i benderfyniadau gwleidyddol arloesol arall, sydd wedi bod yn dipyn o gyfrinach tan heddiw.”
Meddai’r Comodor Awyr Adrian Williams, Swyddog Awyr Cymru: “Mae’r Awyrlu Brenhinol wedi mwynhau dod yma i Lanystumdwy, yn y pentref a’r gymuned a fagodd David Lloyd George, i gydnabod ei gyfraniad at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol gan mlynedd yn ôl. Rydym yn gobeithio y bydd agor Gardd Goffa Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, a’n rhodd o gofnodion hanesyddol yn ymwneud â chyfraniad Lloyd George at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol, yn rhodd bwysig i’r Amgueddfa gan sicrhau bod pobl yn gwybod am yr hanes pwysig hwn yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y Comodor Awyr Williams: “Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, bydd ein Taith Genedlaethol yn mynd i Gaerdydd ganol mis Mai, a bydd cyfle i’r cyhoedd weld awyrennau’r Awyrlu – ddoe a heddiw – y tu allan i Neuadd y Ddinas. Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys Diwrnod Lluoedd Arfog y DU yn Llandudno ym mis Mehefin, felly bydd yr Awyrlu Brenhinol yn brysur iawn yng Nghymru eleni. Wrth i ni fynd ati i gofio ein gorffennol, dathlu ein llwyddiannau ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, mae’n gyfle gwych i’r cyhoedd gyfarfod â’r bobl sy’n gweithio i’r Awyrlu Brenhinol heddiw a dysgu mwy amdanom.”
Meddai Gweinidog Llywodraeth y DU, Stuart Andrew AS: “O’i wreiddiau fel yr awyrlu cenedlaethol cyntaf oedd yn gwbl annibynnol ac ar wahân, hyd at yr awyrennau ymladd a chludo o’r radd flaenaf sy’n rhan o’r llu heddiw, mae’r Awyrlu Brenhinol yn haeddu cael ei gydnabod yn un o’r grymoedd milwrol mwyaf yn y byd.
“Mae eleni’n flwyddyn arbennig sy’n rhoi cyfle i ni ddathlu’r holl gysylltiadau cryf rhwng yr Awyrlu Brenhinol a Chymru. Mae’r gofeb sydd wedi’i dadorchuddio heddiw yn ffordd briodol iawn o nodi cyfraniad hollbwysig cawr o Gymro at sefydlu’r Awyrlu Brenhinol, a chyfraniad anhygoel y gwasanaeth – ddoe a heddiw – at ein gwlad.”