NEWYDDION

Cystadleuaeth Farddoniaeth, Celf a Chân ‘Never Such Innocence’

23 / 02 / 2018

Gwahoddir pobl ifanc 9-16 oed o bob cwr o’r byd i gyflwyno cerdd, cân neu waith celf i gystadleuaeth sydd wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Rydym yn derbyn barddoniaeth a chaneuon mewn unrhyw iaith. Mae ein hadnodd addysgiadol, sy’n gyfeillgar i blant, yn daith trwy’r Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn ysbrydoli ceisiadau. Gallwch ofyn am ddau gopi am ddim o
enquiries@neversuchinnocence.com neu lawr lwytho o’r wefan am ddim.

Mae manylion llawn am y gystadleuaeth, gan gynnwys ffurflenni cystadlu, rheolau a chyfle arbennig i ennill gwobrau o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r RAF ar gael ar y wefan. Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Dydd Gwener, 16eg Mawrth 2018 a’r wobr i’r prif enillydd yw £400. Bydd pob cystadleuydd yn derbyn Tystysgrif o Ganmoliaeth a chaiff gwobrau eu dosbarthu mewn seremoni arbennig ym Mai 2018.