Baner y Llu Awyr Brenhinol yng Nghastell Caerdydd yn Codi’r Faner ar Daith y Pen-blwydd yn 100 Oed
27 / 04 / 2018
RAF Aircraft: (o’r chwith) Sopwith Snipe © IWM, Spitfire X4474, RAF Harrier, RAF Typhoon © Hawlfraint y Goron
Codwyd baner y Llu Awyr Brenhinol yng Nghastell Caerdydd heddiw i dynnu sylw at Daith Awyrennau Genedlaethol yr RAF a fydd yn cyrraedd y brifddinas ymhen pedair wythnos.
Yn codi’r Faner roedd aelodau o grwpiau Wrth Gefn y Llu Awyr Brenhinol yng Nghaerdydd, Sgwadron Rhif 614 (Sir Morgannwg) a Cadetiaid Awyr lleol.
Un o’r hedfanwyr yn codi’r Faner oedd y Corpral Tom Woodward o Tryleg yn Sir Fynwy. Ymunodd â Chatrawd yr RAF yn 2007 a bu am dri chyfnod yn gwasanaethu yn Afghanistan cyn dod yn aelod wrth gefn. Meddai: “Roedd gwneud fy rhan yn nodi pen-blwydd yr RAF ym 100 oed yn rhywbeth arbennig iawn i fi. Bydd cannoedd ar filoedd o bobl yn gweld ein baner yn y brifddinas yn ystod yr wythnosau nesaf, ac fel Cymro ac aelod o’r RAF mae hynny’n fy ngwneud yn falch iawn.”
Ar 1 Ebrill 2018 lansiwyd RAF100 gan y Llu Awyr Brenhinol, ymgyrch genedlaethol i nodi’r pen-blwydd yn 100 oed. Bydd y dathlu yn cynnwys digwyddiadau, gweithgareddau a mentrau eraill ar hyd a lled y wlad o fis Ebrill tan ddiwedd mis Medi 2018. Bydd un o’r digwyddiadau mwyaf, sef Taith Awyrennau Genedlaethol RAF100, yn cyrraedd Parc Cathays, Caerdydd ar 18 Mai.
Bydd awyrennau eiconig, i ddathlu 100 mlynedd o fodolaeth llu awyr annibynnol y byd, i’w gweld y tu allan i Neuadd y Ddinas, Caerdydd ynghyd â gweithgareddau’n seiliedig ar wyddoniaeth i roi i blant ifanc gyfle i brofi byd cyffrous mentrau cwadrenyddion erobatig, teithiau seiberofod, heriau sgiliau llaw a hedfan rhithwir.
Ymhlith yr awyrennau enwog a fydd i’w gweld bydd awyren Spitfire o’r Ail Ryfel Byd ac awyren jet Typhoon o’r cyfnod presennol.
Ar y Spitfire, sydd wedi’i rhoi ar fenthyg yn garedig iawn gan IWM Duxford (rhan o’r Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol), mae marciau Sgwadron Rhif 19 a fu’n gwasanaethu yn ystod Brwydr Prydain pan lwyddodd yr RAF i atal y Natziaid rhag ymosod ar Brydain. Y Rhingyll Jenkins oedd yn hedfan y Spitfire hon, a llwyddodd i saethu pedair o awyrennau’r gelyn i lawr.
Yn cynrychioli’r presennol a’r dyfodol bydd awyren jet Typhoon– yr awyren sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn yn barod i fynd i amddiffyn y Deyrnas Gyfunol.

Cadet Corporal Caisel O’Hare of 1344 Squadron RAF Air Cadets based at Maindy, Cardiff © Crown Copyright, SAC Cathy Sharples
Hefyd yn helpu codi’r Faner roedd y Corpral Gadet Caisel O’Hare, ac meddai: “Fel aelod o Gadetiaid Awyr yr RAF, ac felly’n rhan o gymuned ehangach yr RAF, rwy’n teimlo’n falch iawn cael bod yn rhan o’r dathliadau RAF100. Rwy’n credu ei bod yn ysbrydoliaeth meddwl am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i fi, yn enwedig yn yr amgylchedd STEM.
“Rwyf wedi bod yn rhan o’r Cadetiaid Awyr ers pum mlynedd nawr, a dyma’r amser gorau erioed i gymryd rhan. Rwy’n credu ei bod yn bwysig tu hwnt inni gofio’r bobl a fu o’n blaen ac i ddangos cefnogaeth i ddynion a merched yr RAF heddiw.”
Derbyniwyd y saliwt gan Swyddog uchaf yr RAF yng Nghymru, y Comodor Awyr Adrian Williams, ac meddai: “Fel Cymro sydd wedi treulio’i yrfa gyfan yn yr RAF, mae heddiw’n ddiwrnod o falchder i fi fod yma yng Nghaerdydd yn codi Baner yr RAF yn ein prifddinas. Rydyn ni wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi rhaglen o godi Baner yr RAF yn ardal pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon yn digwydd nawr a bydd yn dod i ben ar 10 Gorffennaf, pan fydd yr RAF yn cynnal ei brif Orymdaith Ganmlwyddiant a Thaith Gydnabod yn Llundain. Fel rhan o Ganmlwyddiant yr RAF bydd nifer o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru, ac un uchafbwynt arbennig fydd Taith Awyrennau Genedlaethol RAF 100.”
Bydd Taith RAF100 ym Mharc Cathays, Caerdydd ar 18-20 Mai 2018. Yr amserau agor fydd
11am-6pm (Gwe), 9am-9pm (Sad/Sul). Mynediad am ddim.
Rhagor o wybodaeth: https://www.raf.mod.uk/raf100/whats-on/raf100-aircraft-tour-cardiff/