Y perfformiad cyntaf ar gân yn y byd o waith newydd gan Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cynnwys geiriau gan gyn-Archesgob Caergaint
22 / 10 / 2018Dr Rowan Williams sydd wedi darparu’r geiriau ar gyfer Sorrows of the Somme, darn cerddorfaol a chorawl newydd gan y cyfansoddwr o Gymro Brian Hughes.
Darn comisiwn i Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw Sorrows of the Somme, sef ymateb personol Hughes i eiriau ar ddu a gwyn gan Gymry, Saeson ac Almaenwyr am y Rhyfel Byd Cyntaf a’r frwydr dros Goedwig Mametz ym 1916. Yn y goedwig hon bu i genhedlaeth o bobl ifanc, miloedd lawer ohonynt o Gymru, golli eu bywydau yn nyddiau cyntaf Brwydr y Somme.
Meddai’r Dr Rowan Williams: ‘Mae geiriau’r gerdd roes Brian Hughes ar gân mor wefreiddiol yn defnyddio atgofion go iawn rhai oedd yn dyst i arswyd Coedwig Mametz. Mae’n eu cyfuno â delwedd coedwig ei hun sy’n gwneud ei gorau i ffrwyno’r gyflafan, fel petai byd natur yn protestio yn erbyn erchylltra dyn. Mae gofyn i ni ddwysystyried yr atgof erchyll hwn, gan gofio’r hyn ddywedwyd droeon am genhedloedd yn “cerdded yn eu cwsg” i ryfel a thrychineb ac yn deffro’n rhy hwyr i weld beth gollasant. Mae gofyn i unrhyw goffâd Mametz gynnwys ymroi, i’r carn, unwaith yn rhagor i gymodi a chydnabod breuder ac urddas dyn.
Rhoddir première byd Sorrows of the Somme gan Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a C.Ô.R yn Neuadd Hoddinott y BBC am dri o’r gloch ddydd Sul 21 Hydref. Dyma berfformiad swyddogol olaf rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers a fu’n coffáu can mlynedd ers y Rhyfel Mawr 1914 – 1918.
Gweithiodd Cyngor Celfyddydau Cymru ar y darn comisiwn yma a chyllido a chefnogi Celfyddydau Ieuenctid Cymru i wireddu’r gwaith. Ers 2014, bu sawl digwyddiad artistig nodedig ar y gweill a gafodd gefnogaeth Gyngor y Celfyddydau gan gynnwys Mametz, National Theatre Wales gan Owen Sheers yn 2014; In Parenthesis, Opera Cenedlaethol Cymru gan Iain Bell yn 2016; ac yn fwyaf diweddar Now The Hero \ Nawr Yr Arwr Mark Rees yn Abertawe.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: ‘Mae teyrngedau gwefreiddiol megis perfformiad Sorrows of the Somme yn ein hatgoffa’n ddwys am y rheini a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ni fydd eu dewrder rhyfeddol ar faes y gad na’u harwriaeth gadarn ar y Ffrynt gartref fyth yn angof. Rwy’n falch o’r gefnogaeth roes Llywodraeth Cymru, yn rhan o’n rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918, i anrhydeddu ein milwyr a syrthiodd. Y Rhyfel Byd Cyntaf a ffurfiodd y Gymru rydym yn byw ynddi heddiw ac mae’n eli i’r galon gweld y bobl ifanc hyn yn perfformio’r darn yma er coffa.’
Meddai Gillian Mitchell, Prif Weithredwr Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, y corff sy’n arwain yr Ensembles Ieuenctid Cenedlaethol, ‘Mae’n fraint cael anrhydeddu’r genhedlaeth o bobl ifanc a aberthodd eu bywydau ganrif yn ôl. Ymhlith aelodau’r Ensembles Ieuenctid Cenedlaethol a C.Ô.R, mae yna ymdeimlad go iawn o falchder, a bydd eu hymroddiad personol i’r darn yn sicrhau bod première Sorrows of the Somme yn goffâd gwefreiddiol a chymwys.’
Meddai David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, ‘Mae hwn yn waith arwrol ei uchelgais – ac addas felly. Mae’n gofyn llawer ond gan fod cyfansoddiad Brian Hughes mor raenus, gwn o’r gorau y bydd yn werth chweil, yn wefreiddiol ac yn afaelgar i’r perfformwyr a’r gynulleidfa. Collwyd cenhedlaeth o Gymry ifanc yn y Somme felly rwy’n cymeradwyo Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am gefnogi’r darn ac yn edmygu’r offerynwyr cerddorfaol a’r cantorion ifainc am eu hegni a’u hymroddiad yn lwyfannu Sorrows of the Somme.’
Mae nifer gyfyngedig o docynnau i Sorrows of the Somme yn Neuadd Hoddinott y BBC ar gael gan Ganolfan Mileniwm Cymru yn wmc.org.uk neu drwy ffonio Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812.