NEWYDDION

Cofio Cyfraniad Cricieth 4-11 Tachwedd 2018 – 100 mlynedd ers diweddu’r Rhyfel Mawr

31 / 10 / 2018

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos y Cofio 2018, o ddydd Sul 4ydd  Tachwedd tan yr 11 eg.  Blwyddyn yn ôl derbyniodd  Cyngor Tref Cricieth grant £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw) ar gyfer prosiect Cofio Cyfraniad Cricieth mewn partneriaeth efo Ysgol Treferthyr, Coleg Meirion-Dwyfor a Neuadd Goffa Cricieth. Mae gan Cricieth dreftadaeth unigryw o safbwynt y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Neuadd Goffa yn gofeb i 49 o unigolion lleol a fu’n ymladd ac a fu farw. Mae llawer o deuluoedd a disgynyddion yr unigolion hyn yn dal i fyw yng Nghricieth a’r ardal heddiw ac efo llawer o hanesion a chofnodion. Roedd Cricieth hefyd yn gartref i David Lloyd George, Prif Weinidog adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn ystod ei gyfnod yn Rhif 10 Stryd Downing roedd llawer o Gymry Cymraeg o Gricieth yn gweithio yno ac mae teuluoedd a disgynyddion llawer ohonynt dal i fyw yng Nghricieth a’r ardal heddiw ac efo hanesion ac atgofion unigryw sydd ddim i’w gweld yn y llyfrau hanes arferol.

Mae digwyddiadau’r wythnos yn benllanw ffrwyth gwaith unigryw yn ystod y flwyddyn.  Bydd yr wythnos yn cychwyn gydag agoriad arddangosfa yn Neuadd Goffa Cricieth, a fydd yn cael ei agor gan Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol, am 3 o’r gloch ar brynhawn dydd Sul 4ydd Tachwedd.  Bydd yr arddangosfa ar agor wedyn yn ddyddiol yn ystod yr wythnos o 11 y bore tan 3 y prynhawn.

Yn ogystal â rhannu cynnyrch y gwaith prosiect mae digwyddiadau Wythnos Y Cofio yn cynnwys:

  • Cyfle arbennig – ar Nos Fercher 7fed yn Neuadd Goffa Cricieth –  i goffau’r rheini a gollwyd yn y Rhyfel Mawr  yng nghwmni sêr “Hedd Wyn” (Huw Garmon, Judith Humphries, Ceri Cunnington, Llio Silyn, Grey Evans)  – rhai ohonynt fydd yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf ers y ffilmio i rannu eu profiadau o fod yn rhan o’r ffilm (1992). Gafodd y ffilm enwebiad am Oscar; mae’n hanes ysgytwol  am Ellis Evans, Trawsfynydd, bardd y gadair ddu Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead 1917.
  • Ar nos Wener  9fed mae Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George wedi trefnu darlith (yn Saesneg) ar Gelf Gymreig y Rhyfel Byd 1af.  Ar doriad y Rhyfel Mawr roedd Cymru’n hwb o gyfalafiaeth byd eang, yn allforio glo, llechi, dur a masnach llaw-waith i bob rhan o’r byd.   Roedd artistiaid o Gymru, fel Augustus John a Christopher Williams, yn enwog a galw mawr amdanynt drwy’r Deyrnas Unedig. Wrth i’r rhyfel gynyddu cawsant hwy a’u cyfoedion brofi erchyllterau brwydron cyntaf modern diwydiannol i’w ymladd ar raddfa gyfandirol. Gwnaethant gynhyrchu rhai o’r delweddau mwyaf cofiadwy o ryfel i ddiweddu pob rhyfel.
  • Mae drysau  Amgueddfa Lloyd George ar agor ar ddydd Sadwrn 10fed, a bydd Twm Morys yn adrodd araith Lloyd George yn cyhoeddi diwedd y rhyfel
  • Ar ddydd Sul y Cofio ar 11eg, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yn  Neuadd Goffa  Cricieth yn dilyn y Gwasanaeth Coffa yn y bore:
    • Cyngerdd o gerddoriaeth gan y basydd a’r cyfansoddwyr David Heyes i goffau diwedd y Rhyfel Mawr. O’i natur yn myfyrio, gyda synnwyr o golled, ond hefyd gobaith am y dyfodol.
    • Te prynhawn gydag Emma Buckley ar y delyn
    • Perfformiadau o waith gan blant Ysgol Treferthyr. Gwyneth Glyn a Twm Morys, darlleniadau o lythyron a ddanfonwyd gan filwyr lleol i deulu a ffrindiau a chanu caneuon o’r cyfnod gan y Starlight Players ac aelodau Prifysgol y Drydedd Oes.
  • Bydd yr wythnos yn diweddu gyda Seremoni Ffagl Goleuni ar y prom yng Nghricieth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth George, Cadeirydd Cyngor Tref Criccieth “Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous bod yn rhan o’r prosiect hwn gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn roi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal i ymchwilio i hanesion a’r effaith a gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar yr ardal y maent yn cael eu magu ac yn byw ynddo heddiw.,gyda phwyslais ar heddwch. Mae’r grant wedi rhoi cyfle i weithio mewn cydweithrediad gyda phartneriaid ac arbenigwyr adnabyddus ac eang eu maes i wireddu amcanion y prosiect cyffrous hwn, na fyddai wedi bod yn  bosib fel arall.”

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Roedd effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn bell gyrhaeddol, yn cyffwrdd â bob chornel o’r DU. Trwy ein rhaglen grantiau penodol, sydd wedi ei chreu i gofio’r Canmlwyddiant, rydym wedi helpu cymunedau i gofio a thalu teyrnged i bawb a gymerodd ran. Mae’n arbennig o bwysig bod pobl ifanc yn gwybod am y rôl allweddol chwaraeodd Cymru yn y rhyfel, ac mae’r prosiect yma yng Nghricieth wedi rhoi pobl mewn cyswllt â gorffennol y dref a’r cyfraniad gwerthfawr wnaeth ei thrigolion 100 mlynedd yn ôl.”

 

NODIADAU I OLYGYDDION

Am fwy o wybodaeth, lluniau a chyfweliadau cysylltwch â’r Cynghorydd Elizabeth George, Cyngor Tref Criccieth  ar 07976 898793 elizabethgeorge61@hotmail.com neu Clerc y Cyngor, Dr Catrin Jones ar 07780886512 clerccriccieth@gmail.com. 

Ynglŷn â Chronfa Dreftadaeth y Loteri

O’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau hanesyddol ac adeiladau rydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin, rydym yn defnyddio arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu pobl ledled y DU i archwilio, i fwynhau ac i warchod y dreftadaeth sy’n bwysig iddyn nhw. www.hlf.org.uk. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac  Instagram a defnyddiwch #LoteriGenedlaethol a #CefnogirganCDL.