NEWYDDION

COLLEDION CYMREIG O’R RHYFEL BYD CYNTAF I’W COFFÁU GYDA PHORTREADAU TYWOD AR DRAETHAU LEDLED CYMRU YNG NGHOMISIWN CADOEDIAD DANNY BOYLE

05 / 11 / 2018

Cyhoeddwyd heddiw y bydd pedwar o Gymru a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu coffáu gan bortreadau tywod graddfa fawr ar gyfer comisiwn Cadoediad Danny Boyle, Pages of the Sea. Ar ddydd Sul 11 Tachwedd, gwahoddir y cyhoedd i ymgynnull ar un o ddeg ar hugain o draethau o gwmpas y DU a Gweriniaeth Iwerddon ar lanw isel am weithgred goffa anffurfiol, ledled y wlad, ar gyfer y dynion a’r merched a adawodd eu glannau cartref yn ystod y Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd portread graddfa fawr o golledion o Gymru ddylunwyd gan artistiaid tywod, Sand in your Eye, yn cael eu llunio yn y tywod ar draethau Abertawe, Bae Colwyn, Freshwater West (Sir Benfro) ac Ynyslas (Ceredigion).  Bydd y portreadu yn cael eu golchi ymaith wrth i’r llanw ddod i mewn. Yn ogystal, gofynnir i’r cyhoedd ymuno trwy greu silwetau o bobl yn y tywod, i gofio’r miliynau o fywydau a gollwyd neu a newidiwyd am byth gan y gwrthdaro. Bydd pob un o’r traethau sy’n cymryd rhan yn y prosiect yn coffáu colledion gwahanol o’r RhByd1af.

 

Y portreadau o’r colledion a ddetholwyd i’w coffáu ar draethau Cymru yw:

Traeth Abertawe

Dorothy Mary Watson. Trwy garedigrwydd 14-18NOW / by kind permission of 14-18NOW

Roedd Dorothy Watson yn Weithiwr Arfau Rhyfel 19 oed (a elwid yn ‘Munitionettes’) a laddwyd mewn ffrwydrad yn y NEF (National Explosives Factory) ym Mhen-bre ym mis Gorffennaf 1917. Fe laddwyd tri arall yn yr un ffrwydrad a daeth Stryd Fawr Abertawe i stond ar gyfer angladd ar y cyd Dorothy a Mildred Owen (18). Arweinwyd yr orymdaith gan eu cyd-Munitionettes yn eu gwisgoedd gwaith.

 

 

 

 

 

 

Bae Colwyn

Private Ellis Humphrey Evans – Hedd Wyn. Trwy garedigrwydd 14-18NOW / by kind permission of 14-18NOW

Ganwyd Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Meririonnydd ar 13 Ionawr 1887 a’i ladd ym Mrwydr Passchendaele, ar 31 Gorffennaf 1917. Roedd yn fardd o fri ac wedi enill ei gadair farddol gyntaf ym 1907. Tra’n Flēchin, Ffrainc, yn aros i fynd i’r Ffrynt yn Ypres, gorffennodd gyfansoddi a chyflwynodd ei gerdd, Yr Arwr, i’r Eisteddfod Genedlaethol ym 1917. Pan alwyd ar ‘Fleur-de-lis’ i godi yn ystod seremoni cadeirio’r Eisteddfod ym Mhenbedw , ni gododd neb. Roedd Hedd Wyn, y bardd buddugol wedi’i ladd ychydig wythnosau ynghynt ar faes y gâd yn Fflandrys. Gorchuddiwyd y gadair wag gyda gorchudd du ac o’r diwrnod yna hyd heddiw, adwaenir Eisteddfod Penbedw 1917 fel “Eisteddfod y Gadair Ddu”.

 

 

 

 

 

Freshwater West (wedi’i gyhoeddi’n gynharach fel Aber Llydan )

Major Charles Alan Smith Morris. Trwy garedigrwydd 14-18NOW / by kind permission of 14-18NOW

Roedd yr Uwchgapten Charles Alan Smith Morris, a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi’i gofnodi yn wreiddiol i Gatrawd Swydd Bedford. Yn 1917 cafodd ei anafu tra’n brywdro ar y Ffrynt Gorllewinol yn La Courcelette a nodwyd ei fod ar goll, gyda’r gred ei fod wedi’i ladd. Fisoedd yn ddiweddarach, cafodd ei Ewythr Charlie becyn o’r Groes Goch gyda’r newyddion bod Charles wedi ei ganfod a’i symud i ysbyty maes Almaenig lle, yn anffodus, bu farw yn ddiweddarach.

 

 

 

 

 

Ynyslas, Ceredigion

Richard Davies. Trwy garedigrwydd 14-18NOW / by kind permission of 14-18NOW

Ganed Richard Davies yn y Borth ar 29 Rhagfyr 1863. Yn briod â Mary Davies, roedd ganddynt chwech o blant ac roedd Richard yn gweithio fel labrwr yn ogystal â bod yn Llyngheswr Brenhinol wrth gefn. Cafodd ei alw’n ôl i’w lifrau ar ddechrau’r rhyfel a’i benodi i i’r dreill-long HM Evangel. Fe’i defnyddiwyd ar gyfer dyletswyddau gwrth-danforol ym Môr Iwerddon, gan hwylio o’i gorsaf yn Aberdaugleddau. Ar 25 Mawrth 1917, roedd Evangel ar batrôl oddi ar Milffwrdd pan drawodd ffrwydryn a osodwyd gan y llong danfor Almaenig UC-48. Fe suddodd gyda cholled 25 o fywydau. Roedd Richard (54) ymhlith y dynion a laddwyd y diwrnod hwnnw. Adferwyd ei gorff o’r môr, a chladdwyd ef ym Mynwent Methodistiaid Calfinaidd Pen-y-garn, Tirymynach yng Ngheredigion.

 

Mae’r portreadau’n coffáu dynion a merched a wasanaethodd neu a fu’n golledion yn y Rhyfel Byd Cyntaf, y rhan fwyaf ohonynt wedi marw ar faes y gâd. Fe’u dewiswyd gan Danny Boyle i gynrychioli ystod o straeon diddorol – pobl gyffredin a roddodd eu bywydau i’r ymdrech Ryfel, yn cwmpasu ystod o rengoedd a chatrawdau, o feddygon i weithwyr arfogi, o filwyr cyffredin i Is-gapteiniaid ac Uwchgapteniaid. Roedd nifer hefyd yn feirdd rhyfel nodedig a drosglwyddodd brofiad rhyfel i’r rheini oedd gartref. Mae llawer ohonynt o’r rhanbarthau neu’r cymunedau y byddant yn cael eu hamlygu ynddynt, eraill o drefi a dinasoedd heb eu cynnwys, neu o gymunedau rhyngwladol i ddangos graddfa’r golled. Mae’r unigolion yma yn ddetholiad bach iawn o’r miliynau a roddodd eu bywydau i’r rhyfel.

Gwahoddir y cyhoedd i archwilio oriel bortreadau ar-lein o rai o’r dynion a’r merched a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a dewis rhywun i ddiolch a dweud ffarwél bersonol naill ai trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu trwy fynychu un o’r traethau ar 11 Tachwedd yn www.pagesofthesea.org.uk. Daw’r delweddau o ‘Lives of the First World War’ yr Imperial War Museums, sy’n anelu at adrodd 8 miliwn o straeon am y rhai a wasanaethodd o Brydain a’r Gymanwlad. Gall ymwelwyr â’r wefan hefyd ychwanegu portread eu hunain o aelodau o’u teulu neu eu cymuned a gyfrannodd at y Rhyfel Byd Cyntaf. www.livesofthefirstworldwar.org

Gwahoddwyd y bardd Carol Ann Duffy gan Boyle i ysgrifennu cerdd newydd, a fydd yn cael ei darllen gan unigolion, teuluoedd a chymunedau wrth iddynt ymgasglu ar draethau ar 11 Tachwedd. Mae’r gerdd, A Wound in Time, gyda chyfieithaid Cymraeg, Y Clwyf Mewn Amser, gaiff ei darllen gan unigolion, teuluoedd a chymunedau ar y traethau, hefyd ar gael ar-lein. https://www.pagesofthesea.org.uk/the-wound-in-time/

Bydd cyfres o ddigwyddiadau cymunedol hefyd yn cael eu cynnal ar bob traeth. Bydd pobl na allant gyrraedd yna ar y diwrnod yn gallu gwylio’r gweithgareddau a’r portreadau o’r rhan fwyaf o’r traethau ar gyfryngau cymdeithasol ar Sul 11 Tachwedd. Mae’r gwaith yn benllanw 14-18NOW, rhaglen gelfyddydol y DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Mae’r gwaith yn cael ei gomisiynu a’i gynhyrchu gan 14-18 NOW, ac mae’n benllanw’r rhaglen bum mlynedd o gomisiynau celfyddydol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i cyflwynir gyda sefydliadau partner ledled y DU: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Activate Performing Arts; Creative Foundation; Eden Project; National Theatre Scotland; Nerve Centre; Sunderland Culture; Taliesin. Mae’r gwaith mewn cydweithrediad â Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth; The Grand Theatre of Lemmings; Magna Vitae; MOSTYN; SeaChange Arts; Cyngor Abertawe; Prifysgol Abertawe; Theatre Orchard; a Visit Blackpool. Gwahoddwyd pob un i greu eu digwyddiad eu hunain gan ganolbwyntio ar y celf tywod ar y traeth a darlleniad y gerdd ac sy’n adlewyrchu aberth eu cymuned leol.

 

Cefnogir gan y Loteri Genedlaethol a’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon

 

Gyda chefnogaeth bellach gan Backstage Trust, Bloomberg Philanthropies, Sefydliad Calouste Gulbenkian (Cangen y DU) and National Rail.

 

Gall y cyhoedd weld pa draethau sy’n cymryd rhan drwy fynd i www.pagesofthesea

#PagesoftheSea