NEWYDDION

GŴYL GREGYNOG 2019: GWELEDIGAETH

18 / 04 / 2019

GŴYL GREGYNOG 2019: GWELEDIGAETH

22–30 Mehefin 2019

Neuadd Gregynog - Gregynog Hall

Neuadd Gregynog – Gregynog Hall. Credit Gŵyl Gregynog Festival

Mae Gŵyl Gregynog, gŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf Cymru, yn dychwelyd ym mis Mehefin gyda’i chyfuniad traddodiadol o ddigwyddiadau hafaidd mewn lleoliadau delfrydol yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r tymor yn dathlu gweledigaeth y teulu Davies – Gwendoline a Margaret Davies a’u brawd David, Y Barwn Davies Cyntaf – i gael byd gwell, wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn diwylliant a heddwch, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r flwyddyn 2019 yn nodi 100 mlynedd ers i Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Gŵyl Gregynog, Henry Walford Davies, gael ei benodi yn Athro Cerdd Gregynog cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth, 1919–26, ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru, 1919–41: penodiadau a gyllidwyd gan Gwendoline a Margaret Davies. Mae’r tymor hefyd yn dathlu pen blwydd dau sefydliad a noddwyd gan David Davies: Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a’r Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd.

Wrth lansio’r tymor dywedodd Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl:

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn dychwelyd i Gregynog gyda chyngherddau siambr a cherddoriaeth gynnar; maen nhw’n berffaith ar gyfer nosweithiau’r haf yn yr Ystafell Gerdd. Fel un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, rwyf wastad wedi cael fy nghyfareddu gan fwriad Walford Davies ‘i hybu mynegiant o genedligrwydd Cymreig mewn cerddoriaeth’, drwy benodi’r trefnydd cerdd sirol cyntaf yng Nghymru a hynny yn sir Drefaldwyn a pheri, ymysg pethau eraill, fod hyfforddiant offerynnol peripatetig ar gael i oedolion a phobl ifanc fel ei gilydd. Ni fyddai cynlluniau arloesol eraill ar gyfer y genedl, megis sefydlu Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Deml Heddwch ac Iechyd, wedi cael eu gwireddu heb haelioni’r teulu Davies, a dyna pam mai ‘Gweledigaeth’ yw thema’r Ŵyl eleni.”

Mae’r uchafbwyntiau, a gynhelir yn Ystafell Gerdd hanesyddol Gregynog ger Y Drenewydd, yn cynnwys yr Odysseus Piano Trio (Gwener, 28 Mehefin, 7.30pm), a bydd eu cyngerdd yn talu teyrnged i’r Aberystwyth Trio a benodwyd gan Walford Davies yn 1919 fel yr ensemble siambr preswyl cyntaf mewn unrhyw brifysgol yn y byd. Cynhaliodd y Trio gyngherddau wythnosol am ddim i fyfyrwyr a phobl y dref, a hyd yn oed rannu llwyfan gyda Béla Bartók pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y DU yn Aberystwyth ym mis Mawrth 1922.

Bydd Gregynog hefyd yn cyflwyno A Nocte Temporis, wedi’i gyfarwyddo gan y tenor Reinoud Van Mechelen, mewn rhaglen hyfryd o arias gan Bach (Sadwrn, 29 Mehefin, 7.30pm). Y tenor o Fflandrys, Van Mechelen, a’r ensemble Baróc o Ffrainc, A Nocte Temporis sy’n cynnwys y ffliwtydd Anna Besson, yw sêr y byd cerddoriaeth gynnar, a hwn fydd eu hymddangosiad cyntaf yng Nghymru.

Bydd diddordeb y teulu Davies mewn heddwch a’r diwylliant Ewropeaidd dan sylw mewn rhaglen brynhawn o sgyrsiau gan Dr Jan Ruzicka (Gregynog, Sadwrn, 29 Mehefin, 2.30pm) a Craig Owen (Gregynog, Sadwrn, 29 Mehefin, 4.00pm). Jan yw Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ac mae Craig yn Bennaeth Cymru dros Heddwch yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd.

Yn Aberystwyth y cynhelir cyngerdd agoriadol a chyngerdd clo’r Ŵyl, a hynny er mwyn tynnu sylw at gysylltiadau dyngarol y teulu Davies â’r dref. Bydd y band gwerin-siambr VRȉ (Patrick Rimes, Jordan Price Williams ac Aneirin Jones) yn perfformio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Sadwrn, 22 Mehefin, 7.30pm), a’r organydd Meirion Wynn Jones yn rhoi datganiad yng Nghapel Bethel (Sul, 30 Mehefin, 2.30pm). Mae CD gyntaf VRȉ Tŷ Ein Tadau yn cael adolygiadau gwych ar hyn o bryd mewn cyhoeddiadau sy’n amrywio o fRoots i’r Guardian (‘revisiting Welsh traditional music in beautiful new ways’), ac mae enw Meirion yn ymestyn y rhestr hir o organyddion nodedig ac o gyfansoddwyr sy’n gysylltiedig ag organ hyfryd Bethel, rhestr sy’n cynnwys enw Walford Davies ei hun: ef a roddodd y datganiad agoriadol yn 1924.

Bydd ail gyfle i glywed VRȉ ym Mhontcadfan yn Llangadfan (Sul, 23 Mehefin, 2.30pm) a bydd y tocyn yn cynnwys te prynhawn blasus yng nghaffi Cwpan Pinc. Bydd Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl, Dr Rhian Davies, hefyd yn traddodi dwy ddarlith ar ddylanwad Walford Davies ar gerddoriaeth Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Gwener, 28 Mehefin, 1.00pm) a Gregynog (Gwener, 28 Mehefin, 6.00pm).

Mae Swyddfa Docynnau Gregynog yn agor ddydd Llun, 18 Mawrth, a bydd tocynnau a gwybodaeth lawn ar gael ar www.gregynogfestival.org a 01686 207100. Am yr holl newyddion diweddaraf gallwch hefyd ymuno â’r rhestr bostio drwy gyfrwng y wefan, a dilyn tudalen Facebook Gŵyl Gregynog a’i chyfrifon Twitter, @gregynogfest a @MorfyddOwen100.

 

Gŵyl Gregynog 2019: Gweledigaeth

Digwyddiadau’r tymor

 

Sadwrn, 22 Mehefin 2019, 7.30pm

Drwm, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth

VRȉ, Tŷ Ein Tadau

Mae Tŷ Ein Tadau, CD gyntaf y triawd llinynnol gwerin-siambr VRȉ (Patrick Rimes, Jonathan Price Williams ac Aneirin Jones), yn cael adolygiadau gwych yn y Guardian a fRoots. Manteisiwch ar y cyfle i’w clywed mewn cyngerdd acwstig sy’n agor tymor Gŵyl Gregynog 2019.

www.vri.cymru

 

Sul, 23 Mehefin 2019, 2.30pm

Pontcadfan, Llangadfan

VRȉ, Tŷ Ein Tadau

Cyfle arall i wrando ar VRȉ, y tro hwn mewn hen gapel sydd wedi dod yn lleoliad poblogaidd i’r Ŵyl. Bydd pris y tocyn yn cynnwys te prynhawn blasus yng nghaffi Cwpan Pinc.

 

Gwener, 28 Mehefin 2019, 1.00pm

Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Rhian Davies, Walford and Wales

Darlith sy’n rhoi sylw i uchelgais Walford Davies ‘i hybu mynegiant o genedligrwydd Cymreig mewn cerddoriaeth’, ac i’r mentrau gwreiddiol y bu’n ymgymryd â hwy ac a gefnogwyd yn  ariannol gan ‘haelioni diderfyn’ Gwendoline a Margaret Davies.

 

Gwener, 28 Mehefin 2019, 6.00pm

Ystafell Gyffredin, Gregynog

Rhian Davies Walford and Wales

Cyfle arall i glywed cyflwyniad curadurol i’r tymor gan y Cyfarwyddwr Artistig, y tro hwn ar ffurf sgwrs cyn y cyngerdd yng Ngregynog.

 

Gwener, 28 Mehefin 2019, 7.30pm

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog

Odysseus Piano Trio

Repertoire glasurol a cherddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig sy’n gysylltiedig â’r Aberystwyth Trio, yr ensemble siambr preswyl cyntaf mewn unrhyw brifysgol yn y byd.

www.odysseustrio.com

 

Sadwrn, 29 Mehefin 2019, 2.30pm

Ystafell Gyffredin, Gregynog

Dr Jan Ruzicka, Considering all the peoples of the world as one’: David Davies and international politics

Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies yn trafod sut mai ym Mhrifysgol Aberystwyth y sefydlwyd y Gadair gyntaf erioed mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a hynny yn 1919.

www.aber.ac.uk/en/interpol

 

Sadwrn, 29 Mehefin 2019, 4.00pm

Ystafell Gyffredin, Gregynog

Craig Owen, David Davies and the Temple of Peace

Darlith gan Bennaeth Cymru dros Heddwch i nodi 80 mlynedd ers agor y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd i goffáu’r dynion a’r merched o bob cenedl a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

www.walesforpeace.org

 

Sadwrn, 29 Mehefin 2019, 7.30pm

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog

Reinoud Van Mechelen, tenor, cyfarwyddwr

A Nocte Temporis

Erbarme dich, rhaglen lawn o waith Bach, sef arias ar gyfer tenor, ffliwt, soddgrwth a harpsicord, yn cael eu perfformio gan y tenor aml-arobryn o Fflandrys a’r ensemble Baróc o Ffrainc.

www.anoctetemporis.org

 

Sul, 30 Mehefin 2019, 2.30pm

Capel Bethel, Stryd y Popty, Aberystwyth

Meirion Wynn Jones, organ

Cerddoriaeth gan Walford Davies, William Mathias a chyfansoddwyr eraill o Aberystwyth sydd dros y blynyddoedd wedi canu’r organ Frederick Rothwell hyfryd sydd yn y capel.

www.meirionwynnjones.com