GŴYL GREGYNOG 2019: GWELEDIGAETH
29 / 05 / 201922–30 Mehefin 2019
Aberystwyth yw canolbwynt y sylw wrth i Ŵyl Gregynog ddathlu gweledigaeth Gwendoline, Margaret a David Davies am fyd gwell, wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn diwylliant a heddwch, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r tymor wedi’i ysbrydoli gan ddau ganmlwyddiant – penodiad Henry Walford Davies yn Athro Cerdd Gregynog ym Mhrifysgol Aberystwyth, a sefydlu’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol – a’r cyfan wedi’i ariannu gan y teulu Davies yn 1919.
Mae’r cyngerdd agoriadol a’r cyngerdd clo yn digwydd yn Aberystwyth: y band gwerin-siambr VRȉ yn perfformio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (22 Mehefin, 7.30pm), a Meirion Wynn Jones yn rhoi datganiad ar yr organ Frederick Rothwell hyfryd sydd yng Nghapel Bethel yn Stryd y Popty (30 Mehefin, 2.30pm).
Mae VRȉ (Patrick Rimes, Jordan Price Williams ac Aneirin Jones) wedi dod yn seren olau yn ffurfafen cerddoriaeth Gymreig ers i’w CD gyntaf Tŷ Ein Tadau ennill gwobr Albwm Gorau a gwobr y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau yn y Gwobrau Gwerin Cymru cyntaf ym mis Ebrill (“a magic chemistry that is absolutely bewildering, mesmerising and thoroughly addictive”, FolkWales). Ar gyfer Gŵyl Gregynog, maent yn tynnu sylw at eu halbwm yng nghyd-destun dau bortread nodedig o’r 19fed ganrif, wedi eu dehongli gan Peter Lord, yn ogystal â chyflwyno set newydd o alawon wedi’u codi o gasgliad Dr Meredydd Evans (Merêd) a Phyllis Kinney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gweler https://blog.llyfrgell.cymru/helar-hen-ganeuon/).
Mae rhaglen Meirion yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr sydd â chysylltiadau ag Aberystwyth, rhai megis William Mathias, David de Lloyd a Walford Davies ei hun. Walford a roddodd y datganiad agoriadol ar organ Bethel yn 1924, a lluniwyd darn de Lloyd, ‘Er Cof’, ar gyfer y gwasanaeth i gysegru’r offeryn er cof am aelodau’r Capel a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog, yn un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth ac fe ddychwelodd yno i fyw y llynedd. “Rwyf wrth fy modd bod nôl yn Aber,” meddai, “ac mae wedi bod yn wych cael creu’r Ŵyl hon yma. Roedd mor gyffrous olrhain y llawysgrif ‘Er Cof’ i Archifdy’r Brifysgol, ac wedyn darganfod ‘Prelude, Elegy and Toccata’ Mathias yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n un o weithiau cynnar Mathias, un a luniodd pan arferai ganu’r organ yn Bethel pan oedd yn fyfyriwr, a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn Gregynog gan yr organydd enwog o Aberystwyth, Charles Clements, felly bydd yn berffaith ar gyfer yr Ŵyl eleni. Bydd Meirion hefyd yn perfformio darn dan y teitl ‘Aria’ gan Firmin Swinnen, ffoadur o wlad Belg a roddodd ddatganiadau mewn nifer o gapeli yn Aberystwyth yn 1915 cyn ymfudo i wneud gyrfa ddisglair iddo’i hun yn yr Unol Daleithiau.”
Mae digwyddiadau Gŵyl Gregynog yn cynnwys yr Odysseus Piano Trio (28 Mehefin, 7.30pm), ac mae eu rhaglen yn talu teyrnged i’r Aberystwyth Trio a benodwyd gan Walford Davies yn 1919 yn ensemble siambr preswyl cyntaf mewn unrhyw brifysgol yn y byd. Fe wnaethant hyd yn oed rannu llwyfan gyda Béla Bartók pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y DU yn Aberystwyth yn 1922.
Bydd diddordebau’r teulu Davies hefyd dan sylw mewn rhaglen brynhawn o sgyrsiau gan Dr Jan Ruzicka (29 Mehefin, 2.30pm) a Craig Owen (29 Mehefin, 4.00pm). Mae Jan yn Gyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ac mae Craig yn Bennaeth Cymru dros Heddwch yn y y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd. I gloi’r diwrnod, bydd yr ensemble Baróc rhagorol o Ffrainc, A Nocte Temporis, dan gyfarwyddyd Reinoud Van Mechelen, yn perfformio am y tro cyntaf yng Nghymru ac yn cyflwyno rhaglen hyfryd o arias gan Bach ar gyfer tenor, ffliwt, viola da gamba a harpsicord (29 Mehefin, 7.30pm).
Bydd cyfle arall i glywed VRȉ a Peter Lord yn Llangadfan (23 Mehefin, 2.30pm) gyda the prynhawn blasus yn Cwpan Pinc i ddilyn. Hefyd, bydd Rhian Davies yn sôn am gynlluniau gwreiddiol Walford Davies ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys Gwyliau Aberystwyth a Cheredigion, yn y Drwm (28 Mehefin, 1.00pm) a Gregynog (28 Mehefin, 6.00pm).
Mae tocynnau a manylion llawn y rhaglen ar gael ar wefan gregynogfestival.org ac ar 01686 207100.