NEWYDDION

David Lloyd George, Cytundeb Versailles a Chynghrair y Cenhedloedd

28 / 06 / 2019

Mae 28 Mehefin 2019 yn nodi 100 mlynedd ers llofnodi Cytundeb Versailles a ddaeth â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben yn swyddogol ac arweiniodd at greu Cynghrair y Cenhedloedd.

Ar gyfer blwyddyn olaf Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y rhan a chwaraeodd Cymru yn y broses heddwch, gan gynnwys y rhan a chwaraeodd y Prif Weinidog, David Lloyd George, a chyfraniad ehangach Cymru at Gytundeb Versailles a Chynghrair y Cenhedloedd.

David Lloyd George yn yr Salon de l’Horloge, Quai d'Orsay, 1919.

David Lloyd George mewn trafodaethau ynghylch Cytundeb Versailles ym 1919, yn Salon de l’Horloge, Quai d’Orsay. Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Eleni, mae nifer o sefydliadau partner Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 hefyd yn trefnu digwyddiadau, sgyrsiau, gweithgareddau ac arddangosfeydd ynghylch y cais am heddwch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys:

 

  • Ar 28 Mehefin bydd disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn rhedeg Amgueddfa Lloyd George. Mae’r gweithgaredd yn rhan o #DiwrnodMeddiannu, diwrnod pan fydd amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, archifau a lleoliadau treftadaeth yn gwahodd pobl ifanc i ymgymryd â swyddi oedolion. Bydd disgyblion yn croesawu ymwelwyr i’r Amgueddfa, yn dangos copi personol Lloyd George o ddrafft Cytundeb Versailles, yn dangos sut brofiad y byddai Lloyd George wedi’i gael yn ddisgybl yn Ysgol Llanystumdwy, ac yn tywys ymwelwyr o amgylch Highgate, y cartref lle magwyd Lloyd George.

 

  • Mae arddangosfa Amgueddfa Cymru 1918: Dychwelyd at Heddwch yn teithio o amgylch ei safleoedd cenedlaethol, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol ym Mlaenafon, a’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Drefach Felindre. Parhaodd effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf am flynyddoedd lawer wedi iddo ddod i ben. Mae’r arddangosfa hon yn bwrw golwg ar sut yr oedd cwmnïau wedi coffau gwasanaeth rhyfel ac aberth eu gweithwyr, a hefyd, sut y lluniwyd diwydiannau Cymru yn y 1920au gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://amgueddfa.cymru/.

 

 

Palas Versaille, 1919.

Palas Versailles adeg Cynhadledd Heddwch Paris 1919. Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn dathlu pobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn eu hysgolion, cymunedau lleol neu yn y byd ehangach. Drwy weithio ar y cyd ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen bydd WCIA yn cyflwyno gwobrau’r Heddychwyr Ifanc mewn seremoni newydd yn yr Eisteddfod ar 4 Gorffennaf – lle bydd pobl ifanc yn arddangos eu cyflawniadau, ac yn derbyn gwobrau a thystysgrifau. Mae’n bosibl enwebu pobl ifanc unigol neu grwpiau mewn 6 chategori, am waith heddwch drwy: Dreftadaeth, Ysgrifennu, Celf, Digidol, Data a Meithrin Heddwch yn y Gymuned. Am ragor o wybodaeth ewch i https://international-eisteddfod.co.uk/cy/young-peacemakers-awards-2019/.

 

  • Ar gyfer Diwrnod Heddwch y Byd ar 21 Medi, bydd ‘Garddwest’ i nodi’r newid o Gymru dros Heddwch, i lansio rhaglen ‘Gweithredu Byd-eang’ newydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) ar gyfer 2019-24. Ynghyd â lansio cyhoeddiadau etifeddiaeth o waith Cymru dros Heddwch rhwng 2015-19 yn ffurfiol, mae’r WCIA yn gobeithio dadorchuddio dehongliadau newydd yng Ngardd Heddwch Genedlaethol Cymru – wedi’u hysbrydoli gan uchelgeisiau ‘cenhedlaeth newydd o ryng-genedlaetholwyr’ i greu byd gwell. Ceir rhagor o wybodaeth yn fuan ar https://www.wcia.org.uk/cy/events/.  

 

  • Yn ystod 2019 bydd cyfres o weithgareddau yn digwydd yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, Gwynedd, a fydd yn nodi rhan bwysig David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain adeg llofnodi’r heddwch. Bydd nifer o ddigwyddiadau ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oedran, gan gynnwys diwrnod agored ar 22 Medi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ar 01766522071 / lloydgeorgemuseum@gwynedd.llyw.cymru

 

  • Mae Cangen Caerdydd a’r Cylch o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig a Chrynwyr Penarth yn trefnu darlith gyhoeddus ar y cyd yn y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd am 7.00pm Ddydd Iau 24 Hydref. Yr Athro Syr Deian Hopkin, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 fydd yn cyflwyno’r ddarlith ar ‘Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru 1918-22’. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Athro Emeritws Robin Attfield, attfieldr@cardiff.ac.uk.

 

Megan Lloyd George tu allan Palas Versailles, 1919

Megan Lloyd George ac aelodau’r teulu y tu allan i Blas Versailles yn ystod Cynhadledd Heddwch Paris 1919. Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hyrwyddo’r arddangosfa ar-lein ar fywyd a gwaith David Lloyd George sy’n cynnwys amrywiaeth o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell. Yn eu plith, mae llythyrau a anfonwyd gan ei Ysgrifennydd Personol Frances Stephenson at ei theulu tra oedd yn y gynhadledd yn Versailles rhwng Ebrill a Mehefin 1919. Hefyd ceir lluniau o Versailles o lyfr ffotograffau Margaret Lloyd George, clip ffilm o gyfweliad Hepworth gyda David Lloyd George, a dolenni at adnoddau addysg ar Lloyd George, Versailles a’r Rhyfel Byd Cyntaf. I weld yr arddangosfa ddigidol, ewch i https://www.llyfrgell.cymru/davidlloydgeorge/.

 

 

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol. Ni fedrwn sicrhau y bydd deunydd o law unigolion neu sefydliadau allanol ar gael yn ddwyieithog. Nid ydym yn gyfrifol am ddigwyddiadau a drefnir gan sefydliadau allanol, unigolion neu grwpiau. Mae’n bosibl y bydd angen archebu lle, neu dalu ffi ar gyfer rhai digwyddiadau. Cysylltwch yn uniongyrchol â threfnwyr y digwyddiad am fanylion.

 

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw rhaglen Llywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.