NEWYDDION

Amgueddfa yng Nghaernarfon yn anrhydeddu aberth y Cymry Brenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

09 / 09 / 2019

Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon wedi lansio cyfleuster ymchwil unigryw i anrhydeddu’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r bas data ymchwil newydd yma yn cael ei gynnal ar wefan yr Amgueddfa ac mae wedi’i rhannu rhwng y rhai a wnaeth yr aberth eithaf (Wynebau’r Milwyr a Gollwyd) a’r rhai a wasanaethodd ac a oroesodd y rhyfel (“Y Cyfan sydd ar ôl”).

Fe gychwynnodd y Prosiect “Wynebau’r Milwyr a Gollwyd” yn 2014, ar ddechrau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, fel ffordd o anrhydeddu’r Cymry Brenhinol hynny a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod y gwrthdaro creulon hwn. Lladdwyd dros 11,000 o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a wasanaethodd mewn 40 bataliwn (pob un gyda 1000 o ddynion) a gafodd eu lladd mewn brwydr, bu farw o’u clwyfau/afiechydon neu mewn damweiniau yng ngwasanaeth eu gwlad. Mae’r nifer hwn yn uwch nag unrhyw gatrawd Gymreig arall. Nid yn unig o Gymru daeth y dynion, ond o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r dominiynau. Gyda chefnogaeth ariannol rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 Llywodraeth Cymru, dyluniwyd y bas data chwiliadwy hwn gan Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar gyfer eu gwefan, fel adnodd ymchwil rhad ac am ddim i bawb ei ddefnyddio. Mae’n etifeddiaeth unigryw ac addas o ddigwyddiadau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. “Rydym yn credu ein bod yn dod â’r Cymry Brenhinol hyn yn ôl i gartref ysbrydol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig”.

Ar adeg lansio’r bas data, mae dros 2,530 o ffotograffau o’r Cymry Brenhinol wedi ei canfod. Mae Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa yn ddyledus iawn i grŵp bach o wirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gwneud y deyrnged addas hon yn bosibl. Shirley Williams, Swyddog Addysg yr Amgueddfa, oedd yr ysgogiad y tu ôl i’r syniad cychwynnol i ddechrau’r prosiect. Adeiladodd Dr John Krijnen, gwirfoddolwr ymroddedig y bas data ac mae wedi treulio cannoedd o oriau yn ymchwilio i gadarnhau manylion yr anafedig. Mae llawer mwy o deuluoedd, grwpiau hanes a threftadaeth, archifau sirol a phrosiectau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cyfrannu lluniau i’r prosiect.

Bydd y ddwy bas data yn parhau i dyfu wrth i fwy o luniau ddod i’r amlwg. Os oes gennych ffotograffau o aelodau’r teulu neu o ffynonellau eraill, nad ydynt yn cael eu dangos yn y bas data eisoes ac yr hoffech roi’r lluniau i ni, yna anfonwch nhw, gyda chymaint o wybodaeth â phosibl, i image@rwfmuseum.wales