DIGWYDDIADAU

1918 : Cymru a’r Cadoediad

National Wool Museum

10/10/2019 - 21/11/2019

Arddangosfa

Dre-fach Felindre
near Newcastle Emlyn
Carmarthenshire
Llandysul
SA44 5UP

Gwefan: http://museum.wales/wool

Rhwng 1914 a 1918, bu bron i 273,000 o ddynion o Gymru yn gwasanaethu gyda’r fyddin, y llynges a’r awyrlu. Lladdwyd tua 40,000.
Nid y colledion enbyd hyn oedd unig gyfraniad ein cenedl i’r rhyfel. Bu degau ar filoedd o ddynion a menywod yn gweithio mewn diwydiannau a oedd yn cynhyrchu glo, dur, metel ac arfau i’r ymdrech ryfel hefyd.
Parhaodd cymylau’r rhyfel am flynyddoedd lawer wedi iddo orffen. Mae’r arddangosfa hon yn trafod sut aeth cwmnïau ati i gofio am wasanaeth ac aberth eu gweithwyr ar faes y gad, a sut y cafodd diwydiannau Cymru eu siapio gan y Rhyfel Byd Cyntaf.