DIGWYDDIADAU

Sgwrs gan Dr John Alban – Ffoaduriaid Belgaidd a Chymuned Felgaidd Abertawe

02/08/2014 2:00pm - 02/08/2014 3:00pm

Sgwrs / Darlith

Swansea Central Library
Civic Centre
Oystermouth Road
Swansea
West Glamorgan SA1 3SN ‎

Yr Ystafell Ddarganfod (Llawr Cyntaf), Llyfrgell Ganolog Abertawe

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelodd Prydain y nifer fwyaf erioed o ffoaduriaid yn cyrraedd ei glannau wrth i 250,000 o bobl o Ffrainc a Gwlad Belg ffoi rhag yr Almaenwyr a oedd yn nesáu. Daeth llawer o ffoaduriaid i Abertawe i ymuno â’r gymuned alltud o weithwyr metel o Wlad Belg a oedd eisoes yno. Bydd Dr John Alban, sy’n Uwch-ddarlithydd Anrhydeddus yn yr Ysgol Hanes ym Mhrifysgol East Anglia ac a arferai fod yn Archifydd Sirol Norfolk, yn archwilio’r rhan a chwaraeodd y Belgiaid ym mywyd Abertawe, a’r modd yr oeddent yn symbol o’r gwrthdaro a ddechreuodd 100 mlynedd yn ôl.