DIGWYDDIADAU

Dinas a Sir Abertawe – Abertawe a’r Rhyfel Mawr

22/07/2014 10:00am - 15/01/2015 5:00pm

Arddangosfa

Swansea Museum Victoria Rd
Swansea SA1 1SN

Gwefan: http://http://www.swanseamuseum.co.uk/

Oriel 1

Arddangosfa sy’n darlunio Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-1918. Bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar straeon sawl unigolyn o Abertawe a fu’n ymwneud â’r Rhyfel Mawr. Yn ogystal â straeon y dynion a aeth i ymladd, bydd yr arddangosfa hefyd yn datgelu brwydrau’r menywod a oedd ar ôl. Bydd yn rhoi sylw i’w cyfraniad nhw i’r ymdrech i ennill y rhyfel, a bydd hefyd yn archwilio straeon y gwrthwynebwyr cydwybodol.