Taith feicio i goffáu Hedd Wyn
North Wales Rugby Choir on behalf of the Welsh Memorial in Flanders Campaign
05/09/2013 0:00am - 14/09/2013 0:00am
Arall
bangor north wales

© Côr Rygbi Gogledd Cymru / North Wales Rugby Choir
Mudiad / Grŵp: Côr Rygbi Gogledd Cymru i godi arian ar gyfer Cofeb i’r milwyr o Gymru a fu farw yn Fflandrys
Ym mis Medi 2013, bydd aelodau o Gôr Rygbi Gogledd Cymru yn beicio o Fangor i Pilkem, sef taith o 600 milltir, er mwyn coffáu Hedd Wyn. Roedd Hedd Wyn yn filwr ac yn fardd y dyfarnwyd y Gadair iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1917, ar ôl ei farwolaeth. Yng Nghymru, daeth y Gadair a’i gorchudd du yn un o ddelweddau eiconig y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y Côr yn teithio o Fangor i Drawsfynydd, cartref Hedd Wyn, cyn dechrau ar eu taith trwy Gymru a Lloegr, ac wedyn ar draws Ewrop at fedd Hedd Wyn ym Mynwent Artillery Wood, Pilkem ger Langemark yng Ngwlad Belg.

© Côr Rygbi Gogledd Cymru / North Wales Rugby Choir
Côr Rygbi Gogledd Cymru yw côr swyddogol yr ymgyrch i greu cofeb i’r milwyr o Gymru a fu farw yn Fflandrys. Nod yr ymgyrch yw codi cofeb genedlaethol yn Langemark i’r holl filwyr o Gymru a gafodd eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd taith y Côr yn codi arian tuag at gwblhau’r gofeb yn 2014.
I gael rhagor o wybodaeth am y daith feicio, e-bostiwch Alwyn Bevan: cor-rygbi@bevreg.co.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch i godi cofeb i’r milwyr o Gymru a fu farw yn Fflandrys, ewch i: http://www.welshmemorialflanders.co.uk/