DIGWYDDIADAU

Darlith Dydd Y Cofio 2018 – ‘Ymateb Menywod Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf’

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

06/11/2018 6:00pm - 06/11/2018 8:00pm

Sgwrs / Darlith

Unnamed Road
Cardiff CF10 4PZ
UK

________________________________________
Mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn eich gwahodd i ymuno â hi i groesawu Dr Dinah Evans i’r Senedd i draddodi’r Ddarlith Goffa eleni. Teitl y ddarlith yw, ‘Ymateb Menywod Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf’. Yn dilyn y ddarlith bydd sesiwn Holi ac Ateb dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles.
Mae Dr Dinah Evans yn Ymchwilydd Cyswllt Anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y ddau ryfel byd ar Gymru a chymdeithas Cymru. Mae ‘Ymateb Menywod Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf’ yn bwnc y mae Dr Dinah Evans wedi ymchwilio’n helaeth iddo ac mae ei gwaith ymchwil wedi’i gynnwys fel pennod yn ‘Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru’, a gyhoeddwyd yn 2016. Mae Dr Dinah Evans hefyd yn aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru.
Mae Dr Elin Royles yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr adran yn dathlu ei chanmlwyddiant ym 2019 gan iddi gael ei sefydlu yn fuan ar ôl diwrnod y Cadoediad fel ymateb i drais eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ôl y ddarlith a’r sesiwn Holi ac Ateb, bydd derbyniad byr a chyfle i weld arddangosfeydd yn yr Oriel a fydd yn cyd-fynd â’r ddarlith, sef arddangosfa’r ‘Mudiad Pleidlais i Ferched yng Nghymru’ a ‘The Soldier’s Own Diary’ gan Scarlet Raven a Marc Marot.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu ar y ffôn.
________________________________________

Ateber erbyn: dydd Iau 1 Tachwedd 2018

Cofrestrwch yma i gael tocyn

Cysylltu@cynulliad.cymru

0300 200 6565

Byddwn yn rheoli archebion ar gyfer y digwyddiad hwn drwy ddefnyddio Eventbrite. Yn ystod y digwyddiad hwn, efallai y byddwn yn casglu lluniau a fideos y gallwn eu cyhoeddi ar ein gwefan, ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol. I gael manylion llawn am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler ein hysbysiad preifatrwydd llawn ar ein gwefan. Os nad ydych am ymddangos mewn unrhyw luniau neu fideos, neu os ydych am ofyn cwestiwn ynghylch sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, rhowch wybod i aelod o staff y Cynulliad cyn, neu yn ystod y gweithgaredd, neu anfonwch e-bost at cysylltu@Cynulliad.Cymru.