Digwyddiad Partneriaeth Olaf Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918
09/03/2020 1:00pm - 09/03/2020 4:30pm
The Pierhead
Cardiff Bay
Cardiff
Cardiff
CF99 1NA
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’r digwyddiad olaf ar gyfer Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a fydd yn cael ei gynnal yn Adeilad y Pierhead, Caerdydd ar 9 Mawrth 2020. Mae croeso mawr i sefydliadau ac unigolion sydd wedi gweithio ar brosiectau mawr neu fach i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
Dyma nod y diwrnod:
- Trafod y coffáu yng Nghymru a rhannu’r Gwersi a Ddysgwyd
- Rhoi sylw i waddol y rhaglen goffáu a’r hyn y mae’r coffáu yn ei olygu ar gyfer y dyfodol
- Rhoi cyfle i glywed am amrywiaeth o raglenni / weithgareddau coffáu a fydd yn parhau yn y dyfodol
- Galluogi’r rheini a fydd yn bresennol i ddysgu mwy am y trefniadau, yr wybodaeth a’r adnoddau a fydd yn waddol Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918
- Parhau i ysbrydoli pobl i weithio mewn partneriaeth ar ôl i’r rhaglen ddod i ben
Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal gan Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch gofrestru yma https://tocyn.cymru/cy/event/69abae98-a438-4d4b-be00-bd0bf19a2679 drwy Tocyn. Caiff lleoedd eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin, a bydd lle ar gyfer 4 cynrychiolydd ar ran pob sefydliad.
Amserlen:
13:00 – 14:00 Cyrraedd a chofrestru, a chinio ar gael
14:00 – 14:15 Croeso ac edrych yn ôl ar y coffáu − yr Athro Syr Deian Hopkin a Linda Tomos, Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru ar Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
14:15 – 15:15 ‘Beth ddigwyddodd yn ystod y coffáu a beth nesaf’. Siaradwyr i’w cadarnhau.
15:15 – 15:30 Te a choffi
15:30 – 16:00 Sesiwn microffon agored ar y Gwersi a Ddysgwyd (5 munud yr un) dan arweiniad yr Athro Syr Deian Hopkin a Linda Tomos
16:00 – 16:20 Y trefniadau ar gyfer gwaddol Rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918
16:20 – 16:30 Sylwadau i gloi a diolchiadau
16:30 Diwedd
Ar ôl y digwyddiad, bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd, i ddiolch i’r llu o unigolion a sefydliadau a fu’n rhan o’r coffáu. I gael rhagor o wybodaeth neu i neilltuo lle, cysylltwch â CabinetCommunications@llyw.cymru. Bydd angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw’r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws Cymru a thu hwnt: www.cymruncofio.org
Sylwer y bydd ffotograffau’n cael eu tynnu yn y digwyddiad hwn. Wrth gofrestru i ddod i’r digwyddiad, bydd pawb yn cytuno y caiff Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ddefnyddio’r ffotograffau hynny mewn deunyddiau cyfathrebu ac ar wefannau a sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.