DIGWYDDIADAU

Estyn yn Ddistaw Holy Glimmers of Goodbye

Llenyddiaeth Cymru / Literature Wales

19/02/2019 10:30am - 19/02/2019

Arall, Perfformiad

Senedd

Gwefan: http://https://www.literaturewales.org/

Ar ddydd Mawrth 19 Chwefror, bydd barddoniaeth yn llenwi’r Senedd – cartref democratiaeth a datganoli yng Nghymru.

Wrth i’r digwyddiadau sy’n nodi canmlwyddiant coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben, mae Llenyddiaeth Cymru wedi trefnu Estyn yn Ddistaw, diwrnod o fyfyrio ar farddoniaeth rhyfel a heddwch yng Nghymru, gyda pherfformiadau, darlleniadau, darlithoedd comisiwn a chyflwyniadau gan rai o awduron mwyaf Cymru.

Noddir y digwyddiad hwn gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac fe’i drefnir gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

Yn ogystal â darlleniadau gan nifer o Aelodau Cynulliad, bydd Estyn yn Ddistaw yn cynnwys perfformiadau o gerddi comisiwn newydd gan: Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Alan Llwyd, Eric Ngalle Charles a Nerys Williams; sioe farddol newydd gan Gywion Cranogwen; darlithoedd comisiwn gan Nerys Williams, Aled Eirug a Phil Carradice ar bynciau megis gwrthwynebiad y Cymry i’r Rhyfel Byd Cyntaf, Ivor Novello a’r Neuaddau Cerdd, a barddoniaeth rhyfel ddoe a heddiw.

Bydd Estyn yn Ddistaw hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan ddisgyblion o Ysgol Calon Cymru, Llanfair-ym-Muallt, ac Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd, a fydd yn perfformio gwaith a grëwyd yn ystod gweithdai ysgrifennu creadigol yn eu hysgolion. Dan arweiniad Rufus Mufasa ac Elan Grug Muse, bu Ysgol Calon Cymru yn archwilio’r berthynas rhwng celf a rhyfel gan ddefnyddio Y Gododdin a Canu Heledd ynghyd â gweithiau cyfrwng cymysg modern fel ysbrydoliaeth.

Gan ddefnyddio archifau a gedwir ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’r beirniad celfyddydol Jafar Iqbal a myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Fitzalan yn archwilio bywyd a gwaith Edward Thomas cyn edrych a chymharu â gweithiau artistiaid megis Johnny Cash, Cat Stevens, U2 a OneRepublic, ac ysgrifennu eu herthyglau eu hunain am eu gwaith.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC: “Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith aruthrol ar gymunedau Cymru, ac mae’r effeithiau hynny’n atseinio hyd heddiw. Does dim syndod fod cyfnod mor arwyddocaol yn parhau i ysbrydoli beirdd, awduron a pherfformwyr dros ganrif yn ddiweddarach.

“Mae gwaith creadigol yn ein cynorthwyo i ystyried a dysgu o’n gorffennol, a dyna pam yr ydym ni’n falch o gefnogi Llenyddiaeth Cymru i gynnal y digwyddiad hwn trwy raglen Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Bydd y gweithiau sydd wedi eu comisiynu’n arbennig yn waddol parhaus i goffâd Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’n fraint gen i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, lle bydd barddoniaeth yn llenwi’r Senedd. Fel ffurf celfyddydol sydd ar gael i bawb, mae barddoniaeth wedi bod yn allweddol wrth ddogfennu ac archwilio effeithiau dinistriol rhyfeloedd dros yr oesoedd, a bydd Estyn yn Ddistaw yn amlinellu ei bŵer wrth inni ymdrechu i sicrhau byd heddychlon.”

I drafod sut y gellid rhoi sylw i’r digwyddiad untro hwn, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau a/neu fywgraffiadau’r cyfranwyr, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / press@literaturewales.org