Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint yn cynnal Diwrnod Agored ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf
14/09/2013 11:00am - 14/09/2013 0:00am
Arddangosfa, Arall
Flintshire record office

© Archifdy Sir y Fflint / © Flintshire Record Office
Mae Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint yn cynnal Diwrnod Agored ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf ddydd Sadwrn 14 Medi rhwng 10am a 2pm yn yr Hen Reithordy, Penarlâg.
Bydd y diwrnod yn cynnwys teithiau tywys ‘y tu ôl i’r llenni’ o’r ystafelloedd diogel a’r stiwdio gadwraeth.
Mae staff y Swyddfa Cofnodion yn apelio am unrhyw gofnodion neu luniau sy’n ymwneud â’r rhyfel er mwyn adeiladu archif ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf – gall y Swyddfa Cofnodion naill ai eu cadw yno’n barhaus neu eu digideiddio a’u rhoi’n ôl i chi. Bydd hefyd arddangosfa o rai o’r cofnodion gwreiddiol o gyfnod y Rhyfel yn cael eu harddangos yn y cyntedd.
Mae’r digwyddiad yn un rhad ac am ddim am ddim a bydd lluniaeth a gweithgareddau plant ar gael gydol y dydd.
Bydd staff wrth law hefyd i ateb eich cwestiynau. Bydd y teithiau tywys yn rhedeg am 11am, 12 hanner dydd ac 1pm (cofiwch fod yr ystafelloedd diogel ar dri llawr a, gan fod yr adeilad yn hen, does dim lifftiau na thoiled i bobl gydag anabledd).
Mae lle yn brin felly mae’n rhaid archebu lle o flaen llaw. Gallwch archebu drwy ffonio 01244 532364 neu e-bostio archives@flintshire.gov.uk.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg:
“Y digwyddiad yma fydd y cyntaf o lawer yn Sir y Fflint gyda thema’r Rhyfel Byd Cyntaf i gofio’r canmlwyddiant. Does yr un o hen filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn fyw heddiw felly mae’n eithriadol o bwysig fod y Swyddfa Cofnodion ym Mhenarlâg yn cadw archif fel hyn ymysg ei gasgliadau – ni ddylai’r un genhedlaeth, heddiw nac yn y dyfodol, anghofio erchyllterau’r cyfnod hwnnw o hanes.”
Ychwanegodd Claire Harrington, Prif Archifydd Cyngor Sir y Fflint:
“Nid yw rhai o drigolion Sir y Fflint yn gwybod am ein gwasanaeth yn y Swyddfa Cofnodion ac mae dyddiau agored yn ffordd ragorol o roi blas i bawb ar y math o gofnodion rydyn ni’n eu cadw yma. Rydyn ni wedi bod yn apelio am gofnodion o’r Rhyfel Byd Cyntaf ers ychydig o wythnosau ac eisoes wedi derbyn llawer o eitemau diddorol iawn. Ein nod yw creu casgliad sylweddol y gellir ei ddefnyddio am byth ar gyfer ymchwil.”
Am ragor o wybodaeth neu i weld pa gasgliadau sydd yn yr archif, ewch i’n gwefan ar www.siryfflint.gov.uk/archifau