Lansio GLO: Dai a Tomi yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
04/08/2014 3:00pm - 04/08/2014 4:00pm
Arddangosfa
Millennium Coastal Path
Llanelli
Carmarthenshire SA15
UK
Bydd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn lansio rhifyn diweddaraf ei chylchgrawn hanes pobl blynyddol, GLO, ar ddydd Llun 4 Awst, 3pm-4pm, ar stondin Amgueddfa Cymru (rhif 611-612) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.
Bydd John Griffiths AC, Gweinidog dros Adnoddau Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon yn bresennol. Meddai: “Mae’n bleser gen i lansio’r rhifyn hwn o GLO fel rhan o raglen Amgueddfa Cymru i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd glo’n rhan ganolog o’r rhyfel, nid yn unig wrth gadw pobl yn gynnes ond hefyd wrth yrru diwydiant, y rheilffyrdd a llongau. Ni ddylid fyth anghofio aberth y bobl a gyfrannodd at ymdrech y rhyfel drwy ddod â’r glo i’r wyneb”.
Mae’r rhifyn hwn o GLO, sef Dai a Tomi – Glowyr ar Faes y Gad 1914-18, yn adrodd hanes rhai o’r glowyr o Gymru fu’n brwydro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys straeon y Cymry a drodd yn ‘dwnelwyr’ yn ystod y rhyfel. I raddau helaeth mae hanes y rhan honno o’r rhyfel yn angof, a chwaraeodd y Cymry rôl allweddol yn yr ymdrech.