DIGWYDDIADAU

Taith Feicio Pentrefi Diolchgar

27/07/2013 0:00am - 04/08/2013 0:00am

Arall

Llanfihangel y Creuddyn

Thankful Villages RunBydd Taith Feicio Pentrefi Diolchgar yn cynnwys tîm o yrwyr beiciau modur a fydd yn ymweld â phob un o’r 51 o Bentrefi Diolchgar ar draws y Deyrnas Unedig. Bydd y  tîm yn teithio 2,500 o filltiroedd mewn naw niwrnod. Bydd y digwyddiad yn dechrau ar ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf 2013 yn Llanfihangel y Creuddyn, ger Aberystwyth, Ceredigion a bydd yn dychwelyd i’r un lleoliad ddydd Sul 4 Awst 2013. 

Cafodd y term Pentrefi Diolchgar ei fathu yn y 1930au gan yr awdur Arthur Mee i ddisgrifio’r llond llaw o gymunedau nad oedd wedi colli unrhyw filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y digwyddiad yn codi arian i’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac yn gwella ymwybyddiaeth o’r 51 o Bentrefi Diolchgar yn y Deyrnas Unedig.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am Daith Feicio Pentrefi Diolchgar, dilynwch y ddolen hon: http://thankfulvillagesrun.com/