Arddangosfa Deithiol y Cymry yn Gallipoli – Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU National Library of Wales Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU
13/10/2015 - 03/11/2015
Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales
Gwefan: http://www.llgc.org.uk
Twitter: @LLGCymru
Mae’r arddangosfa’n adrodd hanes y milwyr Cymreig a fu’n gwasanaethu trwy gydol ymgyrch Gallipoli. Canolbwynt yr arddangosfa yw hanes ‘Hogiau Chwarel’ Penmaen-mawr, milwyr Tiriogaethol a oedd yn gweithio yn y chwarel leol. Bu iddynt gyrraedd Suvla Bay ar 9 Awst 1915 ac i ryfel y diwrnod canlynol. Wrth i’r arddangosfa deithio bydd hefyd yn adrodd hanesion dynion o rannau eraill o Gymru a fu’n ymladd yn Gallipoli.
Bydd elfennau craidd yr arddangosfa’n cynnwys paneli teithio dwyieithog, deunyddiau digidol ategol sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru, llyfryn coffa a deunyddiau addysgol.
Mae’r arddangosfa wedi cael ei ddatblygu gan Mrs Anne Pedley, un o ymddiriedolwyr Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Bydd yr arddangosfa’n ymweld â’r lleoliadau canlynol
– Amgueddfa Penmaenmawr, Conwy (10 Awst – 11 Medi)
– Tŷ Ladywell yn y Drenewydd (15 Medi – 8 Hydref)
– Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth (13 Hydref – 3 Tachwedd)
– Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu (6 Tachwedd – 29 Tachwedd)
– Amgueddfa’r Milwr Cymreig, Castell Caerdydd (7 Rhagfyr – 20 Ionawr)
– Neuadd Gregynog, Sir Drefaldwyn (25 Ionawr – 26 Chwefror)
Am ragor o wybodaeth am yr arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, cysylltwch â’r Llyfrgell ar 01970 632800. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 9.30yb a 6yp o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 13 Hydref a 3 Tachwedd.
————————————————————————————————