DIGWYDDIADAU

Gweithdy Diogelu’r Coffáu, Conwy

Casgliad y Werin Cymru - People's Collection Wales

11/03/2020 12:00pm - 11/03/2020 4:00pm

Gweithdy

Mae Llywodraeth Cymru a Chasgliad y Werin Cymru (CYW) yn gweithio gydag Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth fel rhan o gynllun drwy’r DU gyfan i sicrhau bod yr hyn a gynhyrchwyd gan y gweithgareddau coffáu a drefnwyd gan gymunedau ar draws Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael eu diogelu a’u gwneud mor hygyrch â phosibl.

Os ydych wedi cymryd rhan mewn prosiect i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, dewch i Weithdy Diogelu’r Coffáu Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy ar 11 Mawrth i drafod sut orau i warchod gwaddol eich gweithgareddau coffáu.

Conwy – 11 Mawrth 2020 Cofrestrwch

Darperir cinio.