DIGWYDDIADAU

Yr Heddlu Cudd a Phropaganda – y Rhyfel Mawr

Gwasg Prifysgol Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

06/08/2019 - 06/08/2019

Sgwrs / Darlith

Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst
Conwy
Llanrwst
LL

Y Rhyfel Mawr welodd sefydlu MI5 a datblygiad yr Heddlu Cudd – y Special Branch. Yn y sesiwn yma , bydd Aled Eirug, awdur dau lyfr diweddar ar y gwrthwynebiad i’r Rhyfel, a Syr Deian Hopkin, cadeirydd ac arweinydd ymgyrch Cymru’n Cofio, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gofio’r Rhyfel Mawr, yn trafod sut ddaeth y wladwriaeth i geisio reoli pob elfen o fywyd er mwyn y Rhyfel.

Bydd y ddau yn datgelu sut sicrhaodd y Llywodraeth reolaeth dros bapurau newydd y cyfnod yng Nghymru, ac yn dangos gweithgarwch yr Heddlu cudd yng Nghymru yn erbyn gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr.

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, bore dydd Mawrth am 9.30 a.m. ym Mhabell y Cymdeithasau 2