PROSIECTAU

Prosiect Llongau-U 1914-18 – Yn Coffau’r Rhyfel ar y Môr

U Boat_POSITIVE

Mae’r ‘Prosiect Llongau-U’ yn coffáu’r Rhyfel Mawr ar y Môr ar hyd arfordir Cymru. Partneriaeth gwerth £1 filiwn yw hi a fydd yn para am ddwy flynedd ac sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i harwain gan CBHC. Mae’n darparu mynediad digyffelyb, am y tro cyntaf mewn 100 mlynedd, i olion 17 longddrylliad sy’n gorwedd ar wely’r môr oddi ar arfordir Cymru. Mae’r rhain yn rhan bwysig o dreftadaeth y Rhyfel Mawr ac eto ychydig iawn o ymchwil a wnaed i’r safleoedd gwerthfawr hyn.

Apapa multi-beamBydd rhaglen o arolygon geoffisegol morol yr ymgymerir â hi gan y Ganolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor yn ystod y gwanwyn a’r haf 2018 yn cofnodi data aml-baladr cydraniad uchel ar gyfer y 17 longddrylliad a ddewiswyd ar gyfer y Prosiect. Bydd gwaith arolygu ychwanegol gan y Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yn cynnwys gwneud ffilmiau fideo o 5 o’r llongddrylliadau hyn a chyfunir yr holl wybodaeth i greu modelau digidol rhyngweithiol 3D i’w defnyddio ar wefan y Prosiect ac mewn arddangosfa deithiol.

Bydd arddangosfa deithiol y Prosiect yn ymweld â deunaw amgueddfa môr yng Nghymru o fis Gorffennaf 2018 ymlaen, cyn dod i ben ym mis Rhagfyr 2019.

• Mae’r holl amgueddfeydd sy’n darparu cartref i’r arddangosfa deithiol wedi bod yn trefnu rhaglen o weithgareddau cymunedol, lle bydd gwirfoddolwyr o bob oed a chefndir yn ymgysylltu â’r dreftadaeth hon i ddarganfod, datgelu ac adrodd hanesion y bobl a fu’n gwasanaethu ar y 17 long a’r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y colledion a’r rhyfel ychydig oddi ar arfordir Cymru.

• Partneriaeth rhwng tri sefydliad, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol, yw’r Prosiect hwn. Y Comisiwn Brenhinol yw’r partner arweiniol, yn ganolbwynt ar gyfer y rhwydwaith o amgueddfeydd ac archifdai ar hyd arfordir Cymru sy’n cynnal yr arddangosfa deithiol, ynghyd ag elusennau sy’n cynrychioli pobl ifanc, personél y lluoedd arfog, a gofal cymdeithasol.

• Gellir dilyn y datblygiadau yma:

Twitter: https://twitter.com/LlongauUBoat

Facebook: https://www.facebook.com/llongauUboat

• Gellir cael mwy o wybodaeth am nodau’r Prosiect a sut mae’n cael ei ariannu yma:

https://rcahmw.gov.uk/world-war-one-u-boat-partnership-project-gets-green-light-from-heritage-lottery-fund-for-wales-year-of-the-sea-2018

• Gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â: uboat@rcahmw.gov.uk .