Ymunwch â The Unremembered i goffáu’r Corfflu Llafur o’r Rhyfel Byd Cyntaf
Ymgyrch genedlaethol yw’r prosiect The Unremembered i gofio byddin o weithwyr y Rhyfel Byd Cyntaf – y Corfflu Llafur. Roedd y Corfflu Llafur yn coginio, glanhau, cario a gofalu am y milwyr ar y rheng flaen a thu ôl i linellau’r gelyn. Roeddynt yn adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd, cario’r milwyr a oedd wedi’u hanafu a chladdu’r rhai a oedd wedi marw. Tsieineaidd, Canadaidd, Prydeinig, Indiaidd, mae hon yn stori fyd-eang. Bu farw llawer, ond nid yw llawer o’u cyfraniadau a’u haberth yn cael eu cydnabod bellach. Nhw yw’r Angof (Unrememberd).
Mae 195 o feddi Corfflu Llafur yng Nghymru i gyd lle mae Milwyr Cyffredin, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gyrwyr, cogyddion, blaenoresau a mwy wedi’u claddu yno, gan gynnwys Corfflu Atodol Byddin y Frenhines Mari. Ymunwch â’ch cymuned leol a threfnu gweithgaredd i goffáu ymdrechion y Corfflu Llafur.
Mae’r prosiect ymgysylltiad y gymuned hwn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad y Corfflu Llafur a chynnwys gwahanol safbwyntiau o ben baladr byd yn eich gweithgareddau coffa.
Sut i gymryd rhan
Gallai eich grŵp gymryd rhan drwy drefnu gweithgaredd i gofio ymdrechion y Corfflu Llafur. Defnyddiwch y gronfa ddata Unremembered i ddod o hyd i fedd Corfflu Llafur lleol a darganfod treftadaeth leol angof. Trefnwch bod eich grŵp yn ymgymryd â dargopio carreg fedd, gosodwch flodau neu chwaraewch Y Caniad Olaf ar offeryn. Dewch â’ch cymuned ynghyd gyda ddarlleniad o straeon y Corfflu Llafur o’r sgriptiau archif.
Mae cynllun ad-daliad treuliau ac adnoddau rhad ac am ddim ar gael i gymryd rhan yn y prosiect. Ceir rhagor o wybodaeth yn big-ideas.org ac anfonwch eich cais at y tîm Big Ideas yn theunremembered@big-ideas.org.
Ariennir The Unremembered gan Weinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig. Mae gan Big Ideas grant y Loteri Genedlaethol gan y Gronfa Loteri Fawr i ledaenu’r prosiect drwy’r DU.