Y Cymry yn Gallipoli a Chofeb Gallipoli yn Amgueddfa Firing Line
Roedd Amgueddfa Firing Line yng Nghastell Caerdydd yn falch i gynnal lansiad swyddogol Arddangosfa Y Cymry yn Gallipoli ar ddydd Iau 3 Rhagfyr 2015. Crëwyd yr arddangosfa deithiol gan Anne Pedley o Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae’n ffurfio rhan o goffâd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Roedd yr arddangosfa i’w weld yn Amgueddfa Firing Line rhwng 1 Rhagfyr 2015 a 20 Ionawr 2016, a chyn hynny roedd wedi teithio i amryw leoliadau yng Nghymru, o Benmaenmawr i Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol yn Aberhonddu.
Roedd yr amgueddfa hefyd yn falch i gefnogi cofeb Gallipoli a osodwyd ar dir Castell Caerdydd ac oedd yn agored i’r cyhoedd rhwng 17 Tachwedd a 15 Rhagfyr 2015. Seiliwyd y gofeb, a ddyluniwyd gan Nadir Imamoglu, ar fersiwn ohoni a osodwyd yn y Goedardd Genedlaethol yn Arlewas, Swydd Stafford. Roedd y gofeb ingol yn cynnwys pump o goed derw, gyda phob un tua oed y milwr cyffredin a laddwyd yn Gallipoli. Yn arbennig o atgofus mae canghennau’r coed, sy’n debyg i ddwylo’n estyn i’r awyr i adlewyrchu’r goroeswyr oedd yn daer i gael eu sylwi arnynt gan y meddygon oedd yn gyfrifol am achub goroeswyr.
Mae’r gofeb yn coffáu’r ymgyrch, a lansiwyd ar 25 Ebrill 2015, i gipio penrhyn oedd yn gwarchod Culfor y Dardanelles yn yr hyn a’i helwir yn Dwrci erbyn hyn. Heddiw ystyrir yr ymgyrch fel un o drychinebau fwyaf y Cynghreiriaid. Cymerodd dros 500,000 o fintai’r Cynghreiriaid ran – gan gynnwys 410,000 o filwyr Prydeinig – rhwng Ebrill 1915 a Ionawr 1916. Yn ogystal â mintai o Brydain a Thwrci, roedd yna luoedd o Ffrainc, Awstralia a Seland Newydd. Collwyd 58,000 o fywydau ymysg lluoedd y Cynghreiriaid, gyda 196,000 ychwanegol naill ai wedi’u hanafu neu’n sâl. Roedd o leiaf gymaint o ddioddefwyr ymysg yr amddiffynwyr Twrcaidd.
Cyflwynwyd y gofeb yn ystod digwyddiad awyr agored gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Ken Skates AC. Yno hefyd roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Conswl Awstralia ac aelodau o’r Cymry Brenhinol. Yn dilyn lansiad yr arddangosfa cynhaliwyd cyflwyniad bychan o’r gofeb ei hun.
Mae’r Gofeb Gallipoli wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi cael effaith sylweddol ar ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o Ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r Gofeb a’r arddangosfa wedi taflu goleuni ar gyfraniad y Cymry a’r Twrciaid yn Gallipoli; ac mae wedi helpu i hyrwyddo coffâd Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yn ehangach yng Nghymru. Tua chanol mis Ionawr roedd 5,612 o bobl wedi ymweld â’r arddangosfa Y Cymry yn Gallipoli ac mae 33,029 o bobl wedi gweld y gofeb.
Mae Firing Line yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y grant i osod y gofeb.