Menywod yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Yng ngwanwyn 2015 derbyniodd Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales grant CDL i gasglu a chadw cofnodion am fywydau menywod ledled Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddent yn gweithio ym myd nyrsio, ffatrïoedd arfau rhyfel, y gwasanaethau cyhoeddus, yn cadw tŷ, yn byw mewn gwestai, yn fyfyrwyr neu’n ysgolheigion, neu hyd yn oed yn blant bach. Roedd gwerth i dystiolaeth pob merch neu fenyw.
Lansiwyd y wefan ddiwedd 2016, ond mae defnydd newydd yn cael ei ychwanegu’n gyson, ac y mae modd cysylltu trwy’r safle. Ar hyn o bryd mae gennym gofnodion am dros 200 o fenywod a merched, ac mae eraill yn disgwyl eu cynnwys. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cyfraniadau.
Delwedd; Margaret Ann Lloyd (chwith) a chyfaill. Gweithio mewn ffatri arfau (llenwi cregyn) yn Abertawe.