Diwylliant a hunaniaeth

WELSH

© Kevin Thomas (yng ngofal Casgliad y Werin Cymru)

Ar y dechrau roedd rhai artistiaid ac awduron o blaid y rhyfel, ond yn aml newidiwyd eu safbwynt yn sylfaenol gan yr ymladd.

Yn y rhyfel gwelwyd cenhedloedd yn gwrthdaro, a’r gwahanol ddiwylliannau cystadleugar yn mynd i’r afael â’i gilydd. Weithiau mynegid hyn drwy imperialaeth neu genedlaetholdeb rhodresgar. Er mai dros y cenhedloedd a’r ymerodraethau mawr y bu’r brwydro, gwelwyd y bobloedd yn cymysgu yn ogystal.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd un adran Gymreig, sef y 38ain Adran o Droedfilwyr (Cymreig). Hi feddiannodd Goedwig Mametz ac Esgair Pilckem. Er hynny, gallai Cymry yn y lluoedd arfog ymladd ochr yn ochr â milwyr o Ganada, Affrica neu India yn ogystal â rhai o Lundain, yr Alban, neu Iwerddon. Daeth nifer o filwyr o India i Ewrop am y tro cyntaf, a bu tua 70,000 ohonynt farw dros yr Ymerodraeth Brydeinig.

Cafodd y rhyfel effaith ar lenyddiaeth, celf a cherddoriaeth ym mhob gwlad a fu’n ymladd. Roedd marwolaethau ac anafiadau di-rif yn arbennig o ddychrynllyd i artistiaid oedd wedi teimlo’n hyderus am y dyfodol. Bu’r rhyfel yn ergyd a sigodd hyder yn niwylliant Ewrop. Yn lle’r rhamantiaeth a welwyd cyn y rhyfel, wedi hynny dadrithiad a fynegwyd mewn barddoniaeth a nofelau, gwelwyd celf abstract fel swrealaeth a chlywyd cerddoriaeth newydd ddigywair.

Er mai rhyfel oedd hwn rhwng gwladwriaethau a chenhedloedd, yn ystod y rhyfel bu gwahanol ddiwylliannau’n cymysgu. Efallai bod hyn wedi arwain at fwy o ddealltwriaeth a pharch rhwng pobloedd y byd.