Yr Ymgyrch Gartref

WELSH

© Peter North (yng ngofal Casgliad y Werin Cymru)

Er mwyn rhyfela ar raddfa ddiwydiannol cymerodd y llywodraeth reolaeth ar ei holl adnoddau, gan gynnwys y boblogaeth sifil.

O 1914 ymlaen defnyddiodd y llywodraeth Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas i reoli materion nad oedd hi wedi’u rheoli erioed o’r blaen. Gellid torri’r gyfraith yn awr drwy hedfan barcud neu brynu binocwlars. Cyfyngwyd ar werthu alcohol i chwe awr y dydd, rhwng hanner dydd a 9.30pm, a saib o hanner awr yn y prynhawn. Cymerodd y llywodraeth bwerau dros ddiwydiannau hanfodol megis rheilffyrdd, llongau a glo.

Roedd rheoli’r farn gyhoeddus yn bwysig i’r ymdrech ryfel a sefydlwyd Gweinyddiaeth Wybodaeth i fod yn gyfrifol am bropaganda. Gallai’r Weinyddiaeth ddewis pa bapurau newydd oedd yn derbyn gwybodaeth a hyd yn oed orfodi papurau newydd i gau.

Parhaodd colledion y rhyfel yn uchel iawn, ac yn 1916 cyflwynwyd gorfodaeth filwrol ar ddynion i ymuno â’r lluoedd arfog neu i weithio dros y rhyfel. Gwasanaethodd dros 80,000 o ferched yn y lluoedd ond nid ar faes y frwydr. Bu eraill yn gwneud swyddi’r dynion oedd wedi gadael i fynd i ymladd. Daeth dogni ar fwyd ac ad-drefnwyd amser hyd yn oed – roedd Amser Haf Prydeinig yn caniatáu mwy o oriau at waith rhyfel. Yn ddiweddarach, dywedid mai’r cyfan a ddeuai i’r bobl gyffredin yn sgil rhyfel oedd ‘gweddwon, coesau pren a threthi’.

Yn ystod y rhyfel bu’r llywodraeth yn ymyrryd fwy nag erioed ym mywydau’r bobl gyffredin. Roedd angen miliynau o weithwyr i gynhyrchu’r arfau, cynnal y milwyr a gofalu am y cleifion.