Caniatâd i ddefnyddio delweddau

Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 wedi ymrwymo i barchu hawlfraint ddeallusol unigolion a sefydliadau.

Ffynhonnell delwedd: Daw’r delweddau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys gwefan Casgliad y Werin Cymru. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r delweddau o wefan Casgliad y Werin Cymru, rydym wedi cael yr hawl i ddefnyddio’r ddelwedd neu ganiatâd i’w defnyddio gan ddeiliad yr hawlfraint. Os na lwyddwyd i gael yr hawl i ddefnyddio delwedd neu ganiatâd i’w defnyddio gan ddeiliad yr hawlfraint, rydym yn defnyddio’r ddelwedd honno o dan Drwydded Archif Greadigol Casgliad y Werin Cymru.

Cydnabod ffynhonnell delwedd: Lle’n bosibl, rydym wedi cydnabod ffynhonnell y ddelwedd yn uniongyrchol. Os nad oedd modd i ni gydnabod y ffynhonnell yn uniongyrchol, caiff ei chydnabod ar ddogfen ar wahân y gellir ei lawrlwytho yma.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch delwedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen Cysylltu â ni gan ddisgrifio’r ddelwedd a nodi ar ba dudalen ar y wefan y mae’n ymddangos.

 Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o’r delweddau sydd ar y wefan, cysylltwch â deiliad yr hawlfraint yn uniongyrchol.