Gwaddol

Gwaddol

I genhedloedd Ewrop, trychineb annisgwyl oedd y rhyfel, ac fe drodd wledydd a fu gynt yn gyfoethog yn ddyledwyr.

Collodd rhai pobl eu hyder yn hen arweinwyr cymdeithas a daeth rhai i amau eu ffydd yn nyfodol dynolryw. Cyn y rhyfel Prydain oedd un o wledydd cyfoethocaf Ewrop, ond wedi’r rhyfel gwlad mewn dyled oedd hi. Trawyd poblogaeth egwan Ewrop gan bandemig o’r ffliw a achosodd o leiaf 50 miliwn o farwolaethau’n fyd-eang, mwy nag a laddwyd yn y rhyfel ei hun.

Wedi’r rhyfel codwyd cofebion i anrhydeddu’r meirw a bu ymchwydd mewn ysbrydegaeth wrth i famau geisio siarad â’u meibion marw. Ceisiodd eraill anghofio dioddefaint y rhyfel; yn ystod y ‘dauddegau gwyllt’ bu rhai’n dal ar bob cyfle i fwynhau pleserau bywyd. Erbyn y tridegau roedd trethdalwyr na allent ddychmygu y deuai rhyfel tebyg fyth eto yn anfodlon i dalu arian ar gyfer ailarfogi.

Lluniwyd Cytundeb Versailles gyda’r bwriad o gosbi’r Almaen, a gosodwyd taliadau iawndal ar y wlad a fyddai’n gwneud iddi ddioddef yn economaidd. Roedd llawer o Almaenwyr yn ddig oherwydd telerau’r cytundeb a throdd rhai at fudiadau gwleidyddol newydd, yn arbennig at y Blaid Genedlaethol Sosialaidd – y Natsïaid, a’i harweinydd, Adolf Hitler.

Prin ugain mlynedd y parodd yr heddwch a ddaeth ar ddiwedd y rhyfel. Hyn oedd gwaddol chwerwaf y Rhyfel Byd Cyntaf: ar ôl i’r heddwch gostio cymaint daeth rhyfel arall dychrynllyd o fewn cenhedlaeth.