Datblygiadau Milwrol

© IWM (Q13955)

© IWM (Q13955)

Fis Awst 1914 credai rhai y byddai’r rhyfel drosodd erbyn y Nadolig.

Ar y dechrau disgwyliai’r strategwyr milwrol weld y cafalri’n ymladd rhyfel symudol, ond roedd y diwydiannau cemeg a metel wedi datblygu arfau newydd. Roedd y sieliau ffrwydrol a’r gynnau peiriannol newydd yn atgyfnerthu amddiffynfeydd ac roedd ymosod bron yn amhosibl. Doedd bron dim swyddogaeth i’r cafalri ar Ffrynt y Gorllewin. Yno, a’r byddinoedd yn wynebu ei gilydd dros ffosydd arfog, nid oedd y naill fyddin yn drech na’r llall.

Yn Ewrop bu brwydro o Rwsia i’r Alpau. Ymosodwyd ar Galipoli er mwyn cyrraedd Rwsia dros y môr, ond methiant costus fu’r ymgais. Ymledodd yr ymladd i Affrica, y Dwyrain Canol a hyd yn oed Tsieina.

I ennill mantais ceisiai’r ddwy ochr ddarganfod arfau a thactegau newydd. Fis Ebrill 1915 defnyddiwyd nwy clorin am y tro cyntaf. Datblygwyd nwyon gwenwynig newydd: gas mwstard, ffosgen a sieliau arsenig.

Ar dir, môr ac yn yr awyr defnyddiwyd technoleg newydd i ymladd. Am y tro cyntaf gwnaeth llongau tanfor argraff bendant a suddwyd dros 5,000 o longau gan yr Almaen. Yn 1917 defnyddiwyd y tanciau cyntaf mewn brwydr. Datblygwyd gwell awyrennau hefyd ac erbyn diwedd y rhyfel roedd awyrennau mawr yn gallu bomio dinasoedd.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyflymodd datblygiadau milwrol drwy gyfrwng gwyddoniaeth a diwydiant. Hwn oedd y rhyfel mwyaf dinistriol ac eang a oedd wedi ei weld hyd hynny, a newidiodd strategaeth dulliau rhyfela’n llwyr.