Partneriaid

© Llywodraeth Cymru / © Hawlfraint Y Goron

© Llywodraeth Cymru / © Hawlfraint Y Goron

Mae gan Gymru Fwrdd Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daw’r Bwrdd Rhaglen â sefydliadau allweddol ledled Cymru at ei gilydd i gefnogi coffâd canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Mae’r sefydliadau a gynrychiolir ar y Bwrdd Rhaglen ar hyn o bryd yn cael eu cynnwys yma.

Amgueddfa Cymru – Nod Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo astudiaeth o fyd natur, archaeoleg, a hanes diwydiant, cymdeithas a chelfyddyd ar wyth safle ar draws Cymru. Er mai Cymru yw ffocws y casgliadau cynhwysir hefyd wrthrychau rhyngwladol, yn arbennig y casgliad cyfoethog o gelf argraffiadol Ffrainc.

Amgueddfa ac Ymddiriedolaeth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig – Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn adrodd hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, sef catrawd o’r Fyddin Brydeinig sy’n gallu olrhain ei hanes i 1689. Lleolir ei phrif arddangosfeydd yng Nghastell Caernarfon mewn partneriaeth â Cadw. Dyma’r casgliad milwrol mwyaf a mwyaf sylweddol yng Nghymru ac mae hefyd yn un o’r arddangosfeydd mwyaf ym Mhrydain y tu allan i’r amgueddfeydd cenedlaethol.

Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad – Mae Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn sicrhau nad yw’r 1.7 miliwn o bobl a laddwyd yn ystod y ddau ryfel byd yn mynd yn angof. Mae’n gofalu am fynwentydd a chofebau mewn 23,000 o leoliadau mewn 153 o wledydd. Mae ei gwerthoedd ac amcanion, a osodwyd ym 1917, mor berthnasol nawr ag oeddent bron i ganrif yn ôl.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri – Gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol mae’r Gronfa yn rhoi grantiau i gynnal a chyfoethogi’r dreftadaeth genedlaethol, drwy fuddsoddi mewn mentrau ym maes archaeoleg, ym myd natur ac ym meysydd traddodiad a diwylliant drwy gyfrwng amgueddfeydd, parciau a llefydd hanesyddol.

Is-Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (MALD) – Is-adran polisi Llywodraeth Cymru sydd yn helpu hybu a chadw diwylliant a threftadaeth Cymru trwy gynorthwyo Amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin – Sefydlwyd Cymdeithas Ffrynt y Gorllewin gyda’r nod o gynyddu diddordeb yn Rhyfel Mawr 1914-1918. Maent hefyd yn cadw’r cof am ddewrder a brawdoliaeth y sawl ar bob ochr a wasanaethodd eu gwledydd yn Ffrainc a Fflandrys yn ogystal ag yn eu gwledydd eu hunain yn ystod y Rhyfel Mawr.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Y Gymdeithas sy’n cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac mae’n anelu at hyrwyddo a gwella llywodraeth leol yng Nghymru. Mae cyrff megis yr awdurdodau tân ac achub a’r awdurdodau parciau cenedlaethol yn aelodau cysylltiol o’r Gymdeithas.

Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru – Y Cyngor yw’r corff sy’n cydlynu a hyrwyddo archifau yng Nghymru. Mae’n trefnu prosiectau cydweithredol ac yn cynnal catalog ar-lein o gasgliadau archifol Cymreig.

Cyngor Celfyddydau Cymru – Y Cyngor yw’r corff sy’n gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n ceisio cefnogi’r gorau ym myd y celfyddydau, annog mwy o bobl i gymryd rhan a hyrwyddo economi’r celfyddydau yng Nghymru.

Cytûn – Cytûn yw’r corff cydweithredol sy’n uno’r eglwysi Cristnogol yng Nghymru mewn crefydd a gwasanaeth. Mae’n trefnu ac yn cefnogi cyrsiau, gweithgareddau a digwyddiadau, ac mae’n hybu undod Cristnogol yn ehangach.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Gŵyl flynyddol yw’r Eisteddfod sy’n dod â phobl at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth, llenyddiaeth, dawns, theatr a chelf weledol Gymreig am wythnos ym mis Awst. Cynhelir yr Eisteddfod mewn llefydd gwahanol yng ngogledd a de Cymru bob yn ail, ac ym mhob ardal lle y’i cynhelir mae’n golygu ymdrech gymunedol am ddwy flynedd.

Imperial War Museums (Gwefan ar gael yn Saesneg yn unig) – Agorodd yr Amgueddfa yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf ac mae bellach yn cynnwys pum amgueddfa sy’n hyrwyddo astudiaeth a dealltwriaeth o hanes rhyfel yn y cyfnod modern.

iwm_cymImperial War Museums – First World War Centenary Partnership (Gwefan ar gael yn Saesneg yn unig) – Mae 1914.org yn nodi digwyddiadau ac adnoddau’n ymwneud â chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf o’r byd benbaladr.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Mae’r Llyfrgell yn darparu gwybodaeth am Gymru a’i hanes ar lein a thrwy’r casgliad mawr o lyfrau, archifau, mapiau, delweddau a recordiadau yn Aberystwyth.

WG_positive_40mm SMALLLlywodraeth Cymru – Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru sydd â chyfrifoldeb am yr economi, addysg, iechyd, busnes a gwasanaethau cyhoeddus.

S4C – Sianel Pedwar Cymru, yw’r darlledwr teledu gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg ei iaith. Bob dydd mae’n darlledu dros 15 awr o raglenni gan gynhyrchwyr annibynnol a’r BBC. Mae cynnyrch y sianel hefyd i’w gael ar lein.

Y Fyddin yng Nghymru  – Mae Cadlywydd Cymru hefyd yn Gadlywydd Brigâd 160 (Cymru) ac yn gyfrifol am y gwarchodluoedd milwrol, rheolaidd ac wrth gefn, ar draws Cymru. Mae hefyd yn cynnal yr ystâd hyfforddi ac yn goruchwylio’r unedau cadlanciau niferus. Mae’n sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu cynrychioli’n briodol wrth gydweithio â Phennaeth y Staff Cyffredinol.

Y Lleng Brydeinig Frenhinol (Gwefan ar gael yn Saesneg yn unig) – Y Lleng yw prif elusen y Deyrnas Unedig dros y Lluoedd Arfog. Mae’n darparu cyngor, cefnogaeth a gofal ymarferol i rai sy’n aelodau o’r lluoedd ar hyn o bryd, i rai o bob oed sydd wedi gwasanaethu ac i’w teuluoedd.

Y Llynges Frenhinol (Gwefan ar gael yn Saesneg yn unig) – Mae’r Cadlywydd Llynges Rhanbarthol (Cymru a Gorllewin Lloegr) yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau’r Llynges Frenhiniol ar draws chwarter rhan o Brydain. Yng Nghymru, ef yw Prif Swyddog Llynges y Senedd ac mae’n darparu cyngor ar bob mater sy’n ymwneud â’r llynges gan gydweithio â staff llynges eraill yn ôl y gofyn i sicrhau bod materion Cymreig yn cael eu cynrychioli’n briodol ar bob lefel yn y Llynges Frenhinol.

Nid ydym yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.