
© The Ogmore Valley Local History & Heritage Society
Pan oedd y byddinoedd yn sownd yn y ffosydd ac yn dal i ddioddef colledion, pam na allai neb ddod â’r ymladd i ben?
Roedd rhai gwleidyddion yn awyddus i sicrhau heddwch, ond llusgodd y rhyfel ymlaen nes bod miliynau wedi marw a’r ddwy ochr yn llesg a thlawd. Efallai bod y colledion yn ormod, a’r atgasedd at y gelyn yn rhy chwerw, i bobl allu derbyn cyfaddawd. Efallai mai dim ond buddugoliaeth, waeth pa mor wag, neu golled chwerw, oedd yn bosibl.
Cyn i’r ymladd ddechrau bu nifer o grwpiau crefyddol, undebau llafur a sosialwyr yn sefyll yn erbyn y rhyfel, ond unwaith y dechreuodd y brwydro, trodd y mwyafrif llethol ohonynt yn gefnogol. Roedd y cyhoedd yn wrthwynebus i’r rhai oedd yn dal yn erbyn y rhyfel, ond sefydlwyd cyrff fel Cymdeithas y Cymod gan y Crynwyr ac eraill a bu’r gymdeithas yn gweithio dros heddwch yn ystod y rhyfel ac wedi hynny.
Os nad oedd person yn dymuno ymladd, gallai apelio at Dribiwnlys Gwasanaeth Milwrol i gael ei eithrio. Pe bai apêl gan wrthwynebydd cydwybodol yn cael ei wrthod, gallai ddioddef triniaeth ddidrugaredd gan gynnwys carchar, ei gymryd i’r ddalfa dro ar ôl tro a’i guro. Amcangyfrifir bod tua 80 o wrthwynebwyr cydwybodol wedi marw o ganlyniad i’w cam-drin.
Wedi’r rhyfel hysbysebwyd rhai swyddi gan nodi nad oedd croeso i wrthwynebwyr cydwybodol ymgeisio amdanynt. Ond dangosodd ymdrechion y ‘conchies’ nad oedd y wladwriaeth yn rheoli eneidiau’r bobl.