Gwleidyddiaeth a diplomyddiaeth

WELSH

© Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Methiant diplomyddiaeth oedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y blynyddoedd cyn y rhyfel buasai gwledydd Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn wleidyddol ac yn filwrol. Ofn a drwgdybiaeth a arweiniodd at y rhyfel.

Newidiodd y rhyfel siâp gwleidyddol Ewrop yn sylfaenol. Ar draws y cyfandir, bu cwymp teuluoedd brenhinol: teulu’r Romanov yn Rwsia, Hohenzollern yn yr Almaen a Hapsbwrg yn Awstria-Hwngari. Ar ôl i Woodrow Wilson, Arlywydd UDA, ddatgan bod gan genhedloedd yr hawl i ddewis eu dyfodol eu hunain mynnwyd hunanlywodraeth gan wladwriaethau newydd fel Iwgoslafia a Gwlad Pwyl.

Ym Mhrydain cafwyd llywodraeth gynghrair a’r Blaid Lafur yn rhan ohoni am y tro cyntaf. Gwnaed David Lloyd George yn Brif Weinidog, a bu’n un o arweinwyr rhyfel mwyaf llwyddiannus Prydain. Erbyn diwedd y rhyfel fodd bynnag holltodd y Blaid Ryddfrydol ac yna collodd ei lle i’r Blaid Lafur fel y brif wrthblaid i’r Ceidwadwyr.

Ar ddiwedd y rhyfel cododd mudiadau gwleidyddol newydd, eithafol, ar y chwith ac ar y dde. Byddai’r ymrafael rhyngddynt yn dylanwadu ar wleidyddiaeth Ewrop am ddegau o flynyddoedd.

Y rhyfel, ac yn arbennig Cytundeb Versailles a ddaeth â’r rhyfel i ben, a chwalodd yr hen oruchwyliaeth a fu’n rheoli Ewrop am genedlaethau. Newidiwyd y drefn wleidyddol yn sylfaenol.