
© Swyddfa Archifdy Sir y Fflint
Newidiodd y rhyfel fywyd bob-dydd pobl gyffredin yn ogystal â’r byd gwleidyddol a diwydiannol.
Ym Mhrydain cymerodd y wladwriaeth bwerau newydd i ymyrryd ym mywydau unigolion. Cyflwynwyd buddsoddiadau gorfodol a chodwyd trethi. Ond er i dreth incwm gynyddu hyd at bum gwaith, doedd trethi’n talu dim mwy na chyfran fach o gost y rhyfel.
Pan adawodd dynion eu swyddi i fynd i’r lluoedd arfog, yn aml byddai merched yn cymryd eu lle, gan lwyddo i wneud gwaith oedd yn draddodiadol yn waith dynion. Cymerodd merched fwy o ran ym mywyd cyhoeddus, ac yn 1918 cawsant hawliau pleidleisio newydd ac etholwyd y wraig gyntaf i fod yn aelod seneddol. Pan ddeuai’r dynion adref fel arfer collai’r merched eu swyddi, ond ar ôl y rhyfel ym maes addysg roedd merched yn anhepgorol fel athrawon mewn ysgolion.
Yn y ffosydd bu dynion o bob dosbarth cymdeithasol yn rhannu erchyllterau’r rhyfel. Yn ddiweddarach byddai rhai a oedd wedi gweld gorwelion newydd weithiau’n amharod i ddychwelyd i’w hen swyddi ar y tir neu mewn diwydiant. Yn y wlad cyflymodd dirywiad yr ystadau mawr, yn rhannol oherwydd bod cymaint o feibion y bonedd wedi marw yn y rhyfel.
Wedi’r rhyfel gwelwyd y nifer oedd yn mynychu capel neu eglwys yn lleihau, dirywiad sy’n parhau hyd heddiw. Dechreuodd pobl ddibynnu fwyfwy ar gyfryngau torfol fel y papurau newydd, ac o’r 1920au, y radio.
Roedd y rhyfel yn drobwynt i fywyd cymdeithasol, pan gafodd merched hawliau newydd. Llaciodd rheolau cymdeithas a sicrwydd yn yr hen werthoedd.