Datblygiadau Technolegol

© IWM (Q66092)

© IWM (Q66092)

Roedd technoleg newydd yn allweddol i ennill y rhyfel, a daeth rhai datblygiadau newydd yn rhan o fywyd bob dydd.

Yn ystod y rhyfel gwnaed gwelliannau i’r teleffon a’r radio, ac yn ddiweddarach fe’u defnyddiwyd i hwyluso bywyd y trigolion. Drwy radio rheolwyd trafnidiaeth awyr gan wneud hedfan yn fwy diogel. Datblygwyd gwell peiriannau petrol a disel ar gyfer cerbydau’r lluoedd arfog, ac fe’u defnyddiwyd yn gyffredinol wedi hynny.

Oherwydd yr angen am ofalu am filiynau o gleifion rhyfel gwnaed datblygiadau pwysig ym maes meddygaeth. Ar Ffrynt y Gorllewin y defnyddiwyd peiriannau Pelydr-x symudol am y tro cyntaf. Gwnaed trallwyso gwaed yn bosibl gan dechnegau newydd o storio celloedd gwaed. Gwellodd sgiliau llawdriniaeth adferol a safon coesau a breichiau artiffisial. Wrth i feddygon drafod cleifion oedd yn dioddef o sioc rhyfel mewn ysbytai fel Craiglockhart, cafwyd gwell dealltwriaeth o seiciatreg.

Aeth yr Almaen yn brin o fwyd a nwyddau crai oherwydd gwarchae’r Llynges Frenhinol. Datblygodd gwyddonwyr yr Almaen gemegau i gymryd lle bwydydd fel mêl a choffi. Yn lle menyn dyfeisiwyd olew bwytadwy – margarîn. Darganfuwyd tecstilau newydd synthetig ar gyfer dillad a defnyddiwyd tatws a blawd llif i wneud bara. Enillodd y cemegydd Fritz Haber Wobr Nobel am greu amonia a gwrtaith synthetig, ond yn ystod y rhyfel defnyddiodd ei wybodaeth i wneud nwyon gwenwynig yn fwy effeithiol. Gall gwyddoniaeth fod yn llesol i ddynoliaeth neu’n niweidiol.

Er drwg neu er da, cyflymodd darganfyddiadau gwyddonol a thechnolegol yn ystod y rhyfel a daeth technoleg fodern yn rhan o fywyd yr ugeinfed ganrif.